Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i helpu i atal pobl â dementia rhag mynd ar goll, a helpu i ddod o hyd iddyn nhw os gwnân nhw.
Gall teulu neu ffrindiau rhywun sy'n agored i niwed, neu'r person ei hun, lenwi ffurflen Protocol Herbert. Mae'n cynnwys gwybodaeth i helpu'r heddlu os byddan nhw’n mynd ar goll.
Os gallwch chi ganfod pam mae'r unigolyn yn awyddus i fynd allan, efallai y byddwch yn gallu ateb ei anghenion mewn ffyrdd eraill.
Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn wedi syrffedu, neu'n meddwl bod rhaid mynd allan i'r gwaith neu i godi plant o'r ysgol.
Cyngor Cymdeithas Alzheimer ar gerdded o gwmpas
Technoleg y cartref a thechnoleg bersonol
Fe allech chi ystyried defnyddio:
Os oes gan yr unigolyn ffôn symudol fe allwch chi:
Dylai’r technolegau hyn gael eu defnyddio i helpu rhywun i gadw'n ddiogel, gan barchu eu preifatrwydd yr un pryd.
Cyngor Cymdeithas Alzheimer ar sut gall technoleg helpu gyda dementia
P'un a oes gan yr unigolyn ffôn symudol ai peidio, fe allai gario rhywfaint o wybodaeth sylfaenol yn ei waled, fel pwy i gysylltu â nhw os aiff ar goll a bod rhywun yn dod o hyd iddo.