Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn cyflogi llawer o bobl. Gan gymryd hynny a natur ein gweithrediad i ystyriaeth, mae torri honedig ar arfer derbyniol neu weithgaredd anghyfreithlon, p’un a ydynt wedi mynd drwy’r system llysoedd cyfreithiol ai peidio, yn siŵr o godi. Mae’n ddyletswydd arnom i ymchwilio pob achos, a all arwain at wrandawiad camymddwyn cyhoeddus.
Mae gwrandawiadau camymddygiad yn cael eu cynnal i gyflwyno ffeithiau'r achos ac i ganiatáu i'r person esbonio’i ymddygiad a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r honiad. Gall tystion gael eu galw hefyd i roi tystiolaeth.
Diben gwrandawiad cyhoeddus yw dangos bod ein system ddisgyblu yn agored ac yn dryloyw. Bydd yn dangos ein bod yn dal swyddogion sy'n torri safonau ymddygiad proffesiynol, neu'r rhai lle profir bod yna gamymddygiad, yn atebol am eu gweithredoedd.
Gall unrhyw un fynd i wrandawiad camymddygiad. Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin.
Sylwch y gall y Cadeirydd hefyd benderfynu gosod amodau eraill cyn neu yn ystod y gwrandawiad.
Edrychwch ar y tudalen gwrandawiadau sydd yn yr arfaeth i weld dyddiad, amser a lleoliad pob gwrandawiad.
Sylwch y gallech gael eich chwilio cyn mynd i ystafell y gwrandawiad.
Allwn ni ddim ad-dalu unrhyw dreuliau y byddwch yn eu hysgwyddo wrth fynd i wrandawiad.
Weithiau bydd gwrandawiad camymddygiad yn cael ei ganslo ar fyr rybudd. Mae'n ddrwg gennym os bydd hyn yn digwydd i wrandawiad roeddech chithau’n gobeithio mynd iddo.
Weithiau, fydd gwrandawiad camymddygiad ddim yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, neu ran yn unig fydd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus. I benderfynu hyn, mae'r Cadeirydd yn ystyried:
Os bydd y Cadeirydd yn penderfynu na ddylai'r dystiolaeth sydd i'w rhoi gan dyst neu unrhyw un arall gael ei datgelu’n gyhoeddus, fe fydd yn gofyn i'r cyhoedd gael eu symud o'r gwrandawiad.
Gall y sawl sy'n cadeirio gwrandawiad benderfynu gosod amodau penodol ynglŷn â’r gwrandawiad. Gallai'r rhain gynnwys:
Cewch ragor o wybodaeth yng nghanllawiau’r Swyddfa Gartref ar wrandawiadau camymddygiad.
Mae'r adeilad a'r ystafell gyfarfod yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwynion.
Gall aelodau o’r cyhoedd fynd i wrandawiadau apeliadau fel sylwedyddion ond nid ydynt yn cael cymryd rhan yn y trafodion.