
Digwyddiadau a gorymdeithiau
Cynhelir miloedd o ddigwyddiadau a gorymdeithiau ledled y wlad bob blwyddyn, yn amrywio o nosweithiau clybiau a gwyliau awyr agored i orymdeithiau a gwrthdystiadau protest. Mewn rhai achosion mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r trefnwyr ein hysbysu ymlaen llaw. Fodd bynnag, waeth pa fath o ddigwyddiad ydyw, byddem bob amser yn argymell bod trefnwyr yn cysylltu â ni. Yn amrywio o asesiadau risg i reoli traffig, isod fe welwch sut y gallwn ni helpu i gynllunio a phlismona digwyddiadau ac, os ydych yn trefnu digwyddiad, a oes angen i chi ein hysbysu.