Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar y dudalen hon fe gewch wybodaeth a chyngor yn ymwneud â chyfrifoldebau trefnwyr digwyddiadau a’r heddlu mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Yn ogystal â bod â chyfrifoldebau moesol a chymdeithasol, mae gan drefnwyr gyfrifoldebau’n ymwneud â chyfraith sifil, cyfraith gyffredin a chyfraith droseddol.
Gallech fod yn atebol am y canlyniadau os bydd pethau’n mynd o chwith, yn arbennig os oes problemau’n ymwneud â chynllunio neu reoli digwyddiad.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o ddarpariaethau Deddf Trefn Gyhoeddus 1986.
Gallai methu â rhoi rhybudd o flaen llaw i’r heddlu ynglŷn â dyddiad, amser neu leoliad/llwybr gorymdaith; gwneud newidiadau i’r manylion hyn heb ddiweddaru’r heddlu neu asiantaethau eraill sy’n gysylltiedig; neu fethu â chydymffurfio â newidiadau, amodau neu waharddiadau a osodir gan yr heddlu fod yn gyfystyr â throsedd.
Mae defnydd rhai lleoliadau ar gyfer ymgynnull (yn cynnwys y mannau y bydd angen i bobl eu defnyddio er mwyn cyrraedd a gadael y man ymgynnull) angen caniatâd gan yr awdurdod perthnasol.
Anfonwch gadarnhad o ganiatâd at yr heddlu cyn gynted â phosibl cyn y digwyddiad.
Un o brif gyfrifoldebau trefnydd digwyddiad yw diogelwch y bobl sy’n cymryd rhan, yn ogystal â’r rheini yr effeithir arnynt gan y digwyddiad.
Mae’r cyfrifoldeb hwn yn ymestyn i osgoi difrod i eiddo, ofn neu fraw i’r cyhoedd, neu darfu ar y gymuned leol.
Nid cyfrifoldeb yr heddlu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd mewn digwyddiad cyhoeddus.
Mae’r heddlu’n gyfrifol am gynnal yr heddwch, atal unrhyw dor-cyfraith a gweithredu yn erbyn pobl sy’n torri’r gyfraith.
Os yn bosibl, anogwch y bobl sy’n mynychu digwyddiad i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd y man ymgynnull ac wrth adael y digwyddiad.
Mae’n syniad da i roi gwybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael o ran trafnidiaeth.
Ni ddylai cerbydau nac anifeiliaid fod yn rhan o orymdeithiau. Gall defnyddio cerbydau gynyddu’r perygl o anaf i bobl a gall anifeiliaid yn aml gael eu cynhyrfu gan dorfeydd mawr a mynd i banig.
Ni ddylai pobl allu gadael gorymdaith er mwyn dosbarthu taflenni.
Os ydych yn bwriadu cyflwyno deiseb, bydd angen i chi roi gwybod i’r heddlu gan y bydd angen gwneud trefniadau arbennig gyda derbynnydd y ddeiseb fel arfer.
Yn ddelfrydol, ni ddylid gwneud casgliadau yn ystod gorymdeithiau. Fodd bynnag, os cesglir arian, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded.
Os defnyddir baneri mae’n synhwyrol i’w cynllunio gyda thwll ynddynt er mwyn lleihau’r perygl pan fyddant yn cael eu defnyddio mewn gwyntoedd cryfion.
Rheolwch ddefnydd systemau sain (PA) fel na fyddwch yn tarfu ar y gymuned leol.
Sicrhewch fod plant dan 16 oed yng nghwmni oedolyn a’u bod yn cael eu cadw draw oddi wrth unrhyw ffyrdd sydd ar gyrion llwybrau gorymdeithio lle gallai fod traffig.
Dylech ystyried gwneud darpariaethau ar gyfer cymorth cyntaf.