Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llinellau cyffuriau yw’r enw a roddir ar gyfer delio cyffuriau pan fo grwpiau troseddau cyfundrefnol yn defnyddio llinellau ffôn i symud a chyflenwi cyffuriau, o ddinasoedd i drefi llai ac ardaloedd gwledig fel arfer.
Maent yn camfanteisio ar bobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant a’r rheini sydd â phroblemau’n ymwneud ag iechyd meddwl a chaethiwed i gyffuriau, drwy eu recriwtio i ddosbarthu cyffuriau. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘rhedeg cyffuriau’. Gall troseddwyr hefyd ddefnyddio cartref person agored i niwed fel canolfan ar gyfer eu gweithrediadau. Yr enw ar hyn yw ‘cogio’.
Mae nifer o arwyddion i gadw llygad amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn gysylltiedig mewn llinellau cyffuriau:
Mae rhwydweithiau troseddol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i feithrin perthynas amhriodol a recriwtio plant ar gyfer llinellau cyffuriau. Efallai y byddant yn anfon negeseuon uniongyrchol atynt (a elwir yn ‘DMs’), neu’n rhannu negeseuon i grwpiau ehangach fel ‘straeon’ neu ‘bostiadau’.
Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn aml yn defnyddio llawer o drais a bygythiadau i ddiogelu’r ‘llinell cyffuriau’ a’i rheoli. Un math o’r rheoli hwn yw camfanteisio ar bobl agored i niwed drwy ddefnyddio eu cartref fel canolfan ar gyfer delio cyffuriau, proses a elwir yn cogio. Yn aml bydd delwyr yn argyhoeddi’r person agored i niwed i adael i’w gartref gael ei ddefnyddio ar gyfer delio cyffuriau drwy roi cyffuriau am ddim iddo/iddi a chynnig talu am fwyd neu gyfleustodau.
Yn aml bydd grwpiau troseddau cyfundrefnol yn targedu pobl sy’n unig, wedi’u hynysu neu sydd â phroblemau gyda chaethiwed i gyffuriau. Mae’n gyffredin i grwpiau troseddau cyfundrefnol ddefnyddio eiddo am gyfnod byr, gan symud cyfeiriad yn aml er mwyn osgoi’r siawns o gael eu dal.
Mae nifer o arwyddion i gadw llygad amdanynt a allai ddangos bod rhywun yn ddioddefwr cogio:
Gall plant a phobl ifanc sy’n gysylltiedig â llinellau cyffuriau fynd ar goll neu golli cysylltiad am gyfnodau hir. Yn ystod y cyfnodau hyn gallant fod mewn perygl o ddioddef niwed neu drais.
Os ydych yn riportio plentyn ar goll, dylech gadw llygad am arwyddion y gallai fod yn dioddef camfanteisio. Dylech nodi:
Gallwch geisio cymorth ychwanegol gan Wasanaeth Pobl ar Goll SafeCall, sy’n gweithio’n benodol ar gyfer y rheini yr effeithir arnynt gan linellau cyffuriau.
Os ydych chi’n bryderus ynglŷn â throseddau cysylltiedig â chyffuriau yn eich ardal, neu’n meddwl y gallai rhywun fod yn ddioddefwr camfanteisio cyffuriau, ffoniwch ni ar 101.
Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000. Neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw â’r gwasanaeth SMS brys.
Gallwch hefyd ei riportio ar-lein, neu gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu drwy crimestoppers-uk.org.
Ni chymerir unrhyw fanylion personol, ni ellir olrhain na recordio unrhyw wybodaeth ac ni fyddwch yn mynd i’r llys neu’n gorfod siarad â’r heddlu pan fyddwch yn cysylltu â Crimestoppers.