Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfrifiaduron bach yw ffonau clyfar, felly cymerwch yr un camau ag y byddech chi gyda'ch cyfrifiadur cartref.
Os ydych yn defnyddio ap bancio ar-lein, defnyddiwch ap swyddogol eich banc yn unig. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch banc i ofyn.
Dylech lawrlwytho apiau o siopau apiau swyddogol yn unig, fel:
Gallai eu lawrlwytho o ffynonellau answyddogol neu anhysbys heintio eich ffôn gyda feirws.
Gwnewch yn siŵr fod system weithredu eich ffôn wedi’i diweddaru gyda’r patsys a’r uwchraddio diogelwch diweddaraf. Mae eich system weithredu yn anfon y rhain atoch fel arfer.
Peidiwch byth â rhoi manylion diogelwch bancio symudol, gan gynnwys eich cyfrin-god, i unrhyw un arall a pheidiwch â'u storio ar eich ffôn.
Am ddiogelwch pellach, rhowch gyfrinair neu PIN i gloi eich ffôn symudol.
Fel eich cyfrifiadur, gallwch gael offer gwrthfeirysau ar gyfer eich ffôn symudol; defnyddiwch frand ag enw da. Mae rhai banciau yn cynnig meddalwedd gwrthfeirws am ddim ar gyfer ffonau eu cwsmeriaid. Edrychwch ar wefan eich banc am fwy o wybodaeth.
Byddwch yn wyliadwrus o glicio ar ddolenni mewn neges destun neu e-bost. Peidiwch ag ymateb i negeseuon neu negeseuon llais digymell ar eich ffôn. Ni fydd eich banc byth yn eich e-bostio neu’n anfon neges destun atoch yn gofyn am eich PIN neu gyfrinair llawn.
Yn aml, mae sgam neges destun sy’n cynnig arian i chi am ddamwain y gallech fod wedi'i chael, yn gynllwyn i gael eich manylion personol. Peidiwch ag ateb, hyd yn oed drwy anfon neges destun ‘STOP’. Yn syml, dilëwch y neges.
Efallai y cewch neges destun neu hysbyseb yn eich annog i gymryd rhan mewn cystadleuaeth am wobr wych. Bydd y sgamwyr yn codi cyfraddau uchel iawn am y negeseuon rydych chi'n eu hanfon atyn nhw, mor uchel â £2 fesul neges destun. Peidiwch ag ateb.
Mae sgamiau ‘trivia’ yn golygu eich bod yn ateb cwestiynau gwybodaeth gyffredinol i ennill gwobr. Bydd yr ychydig gwestiynau cyntaf yn hawdd iawn, er mwyn i chi barhau i chwarae. Ond gallai’r un neu ddau gwestiwn olaf y mae angen i chi eu hateb i hawlio eich ‘gwobr’ fod yn anodd iawn neu hyd yn oed yn amhosibl.
Os gwnewch chi geisio hawlio’r wobr, efallai y bydd yn rhaid i chi ffonio rhif cyfradd premiwm, sy’n dechrau gyda 0906 yn aml iawn. Yna mae'n rhaid i chi wrando ar neges hir sydd wedi'i recordio, a gynlluniwyd i'ch cadw ar y lein. Mae'n annhebygol iawn y bydd gwobr ar ei diwedd. Peidiwch â ffonio yn ôl i hawlio.
Twyll neges destun (SMiShing) (gwe-rwydo SMS) yw pan fydd sgamiwr yn anfon neges destun am wybodaeth bersonol neu ariannol. Efallai y bydd y neges yn ymddangos fel petai wrth gwmni dilys, fel darparwr ffôn symudol, ond nid yw cwmnïau dilys byth yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth sensitif drwy neges destun. Peidiwch ag ateb y negeseuon testun hyn. Yn syml, dilëwch nhw.
Oni bai eich bod yn defnyddio gwe-ddalen ddiogel, peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat tra’n defnyddio WiFi cyhoeddus. A byddwch yn ymwybodol o bwy sydd o'ch cwmpas wrth ddefnyddio dyfais symudol i fynd ar-lein.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Gall soffistigedigrwydd deunydd post y farchnad dorfol a thwyll ar-lein a sgamiau post amrywio’n fawr iawn, ond fel rheol gyffredinol, os oes rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod.
Mae nifer o bobl yn y DU, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy’n agored i niwed, yn cael eu denu yn y gobaith o ennill, ac yn rhoi symiau mawr o arian neu ddata personol i hawlio eu gwobr ffug.
Y twyll marchnad dorfol fwyaf cyffredin yw’r sgam gwobrau ffug, lle rydych chi'n cael neges drwy'r post, ebost neu neges destun yn dweud eich bod chi wedi ennill gwobr neu gystadleuaeth, fel arfer un nad ydych erioed wedi clywed amdani.
Mae’r neges yn gofyn yn syth am daliad i hawlio’r wobr, sydd naill ai byth yn cyrraedd neu’n wahanol iawn i’r hyn a addawyd.
Mae sgamiau ‘seicig’ a ‘chlirweledol’ yn targedu dioddefwyr ar gyfer gwobr ffug. Yn y sefyllfa hon, mae ‘seicig’ yn anfon rhestr o rifau loteri ‘lwcus’ i’r dioddefwr. Yn fuan wedyn, mae llythyr yn cyrraedd yn dweud wrth y dioddefwr ei fod wedi ennill loteri gyda'r union rifau hynny. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn rhan o'r sgam.
Efallai y gwnewch chi dderbyn post digymell yn hysbysebu nwyddau o ‘ansawdd uchel’ neu ‘ecsgliwsif’, sydd mewn gwirionedd, yn cynnig gwerth gwael am arian.
Sgam arall yn y farchnad dorfol yw cynnig cyfran o wobr ariannol y gallwch ei chael dim ond drwy archebu nwyddau. Mae'r nwyddau fel arfer o ansawdd gwael iawn ac nid oes sôn am y wobr ariannol ar ôl hynny.
Byddwch yn wyliadwrus hefyd wrth anfon arian, neu dderbyn arian, wrth rywun nad ydych chi'n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo. Gall hyn fod yn gynllwyn gan sgamiwr i’ch cael i drosglwyddo arian drwy eich cyfrif banc sydd wedi’i ddwyn o gyfrif dioddefwr arall.
Os gwnewch hynny, yn dechnegol, rydych yn gwyngalchu arian ac yn ‘ful arian’ ar gyfer y sgamwyr. Os cewch eich euogfarnu am wyngalchu arian, gallech gael eich anfon i’r carchar. Gall cael euogfarn droseddol ei gwneud hi'n anoddach cael cynhyrchion ariannol neu i gael swydd.
Dim ond un ymateb i sgamiwr sydd ei angen cyn i chi gael ei boddi â mwy o bost sgam. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys ar ‘restr darged’ a byddwch yn derbyn llawer o bost sgam bob dydd.
Cofiwch:
Am fwy o wybodaeth a help neu i roi gwybod am hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Mae nifer o sgamiau ar y we yn digwydd heb i'r dioddefwr sylwi hyd yn oed. Mae sgamwyr yn rhoi rhaglenni ar eich cyfrifiadur sy’n gallu dwyn, glanhau neu gloi eich data. I atal hynny, dylech osod meddalwedd gwrthfeirws a wal dân ar eich cyfrifiadur, a’u cadw’n gyfoes.
Cymerwch y camau isod a defnyddiwch synnwyr cyffredin i osgoi cael eich dal.
Mae sgamwyr yn twyllo pobl drwy ddefnyddio ebyst sbam. Yn syml, dilëwch yr e-bost heb ei agor a pheidiwch â’i ateb chwaith, fel arall bydd y sgamiwr yn anfon mwy a mwy o e-byst o gyfeiriadau gwahanol.
Mae unrhyw ebost a dderbyniwch wrth rywun nad ydych yn ei adnabod yn debygol o fod yn sbam, yn enwedig os nad yw wedi’i gyfeirio atoch chi'n bersonol ac yn addo rhyw fath o fudd.
Os cewch chi e-bost gydag atodiad, mae'n debyg gan rywun rydych chi'n ei adnabod, ond nid dyna'r math o neges rydych chi'n ei gael ganddyn nhw fel arfer, peidiwch ag agor yr atodiad. Cysylltwch â’r person sydd i fod i'w anfon i gadarnhau ei fod yn ddilys. Efallai bod yr e-bost wedi’i heintio gyda feirws ac wedi’i drosglwyddo drwy eu cyfeirlyfr.
Gall marchnadoedd ar-lein fod yn llawn hwyl a gall arbed arian i chi, ond maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio gan sgamwyr. Bydd sgamwyr yn ceisio eich llywio oddi wrth safleoedd ar-lein a’ch annog i ddefnyddio dulliau talu anarferol, fel asiantau trosglwyddo arian neu e-arian, sef fersiwn ddigidol o arian parod.
Y sgamiau mwyaf cyffredin ar hyn o bryd yw:
Gall hysbysebion a gwefannau fod yn soffistigedig iawn felly gwnewch ychydig o ymchwil i sicrhau bod popeth yn gwneud synnwyr. Meddyliwch am eich diogelwch personol bob tro wrth gwrdd ag unrhyw un rydych chi wedi siarad â nhw ar y we.
Byddwch yn ofalus o wefannau sy’n edrych yn swyddogol ond sydd yn ffug mewn gwirionedd, sy’n honni eich helpu i wneud cais am basbortau, fisâu a thrwyddedau gyrru.
Mae nifer o ffyrdd y gall sgamwyr gael gwybodaeth bersonol neu ariannol wrth eu dioddefwyr, fel:
Drwy ddefnyddio’r dulliau hyn, mae sgamwyr yn gofyn am wybodaeth fel manylion mewngofnodi a chyfrineiriau, neu’n gosod maleiswedd ar eich cyfrifiadur.
Fel rheol gyffredinol, peidiwch byth â rhoi eich manylion personol neu ariannol i unrhyw un oni bai eich bod yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.