Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae sgamiau bancio a chardiau talu yn cynnwys y defnydd twyllodrus o fanylion cerdyn y dioddefwr i dynnu arian parod neu i brynu nwyddau. Gydag achosion o dwyll cardiau ar gynnydd, mae'n bwysicach nag erioed i ddiogelu manylion eich cerdyn pan fyddwch chi allan a phan fyddwch chi'n siopa ar-lein.
Ni fydd eich banc na'r heddlu byth yn ffonio ac yn gofyn i chi ddilysu eich PIN, tynnu arian neu brynu nwyddau costus. Ni fyddant byth yn dod i'ch cartref i gasglu'ch cerdyn, arian parod neu eitemau sydd wedi'u prynu. Os cewch alwad fel hon, dewch â’r alwad i ben.
Os cewch alwad wrth eich banc neu’r heddlu, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod pwy yw'r person cyn trosglwyddo unrhyw fanylion personol. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'ch banc (y rhif ar gefn eich cerdyn) neu’r heddlu (101) ar linell ffôn arall.
I gael llinell wahanol, defnyddiwch ffôn sy’n berchen i aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog. Y rheswm am hynny yw y gall sgamwyr gadw llinellau ffôn ar agor ar ôl esgus rhoi’r gorau i’r alwad. Felly, er eich bod chi'n meddwl eich bod chi'n gwneud galwad ffôn newydd, mae'r llinell yn dal ar agor i'r sgamiwr, sy’n esgus bod wrth rywun o’ch banc neu’r heddlu (gweler hefyd twyll cwmnïau cludo).
Yn dibynnu ar eich banc, efallai y bydd y cwestiynau diogelwch y byddan nhw’n gofyn yn wahanol, ond ni fyddan nhw byth yn gofyn i chi awdurdodi unrhyw beth drwy nodi eich PIN ar eich ffׅôn.
Peidiwch byth ag anfon arian dramor i berson nad ydych erioed wedi cwrdd ag ef neu at unrhyw un nad ydych yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo mewn gwirionedd.
Yn yr un ffordd, peidiwch byth â chytuno i gadw'ch perthynas ar-lein yn gyfrinach. Cynllwyn yw hwn i'ch cael chi i beidio â dweud wrth eich teulu a'ch ffrindiau, a fydd yn gweld drwy’r sgam.
Yn yr un modd, peidiwch â derbyn unrhyw gynnig am arian. Efallai y bydd sgamiwr yn gofyn i chi dderbyn arian wrthyn nhw i'ch cyfrif banc eich hun, gan ddefnyddio stori argyhoeddiadol ynglŷn â pham na allan nhw ddefnyddio eu cyfrif eu hunain.
Gall yr amgylchiadau ymddangos yn ddilys, ond efallai eich bod, heb wybod, yn cyflawni'r drosedd o wyngalchu arian.
Peidiwch byth â rhannu PIN eich cerdyn debyd neu gredyd gydag unrhyw un. Os gwelwch chi unrhyw beth anghyffredin ynglŷn â’r peiriant arian neu bod rhywun wedi ymyrryd â’r peiriant, peidiwch â’i ddefnyddio a rhowch wybod i’r banc cyn gynted â phosib.
Wrth ddefnyddio’r peiriant ATM:
Bydd hyn yn atal unrhyw lygaid busneslyd neu gamerâu cudd rhag gweld eich PIN.
Peidiwch â gadael i rywun dynnu eich sylw. Byddwch yn arbennig o ofalus os yw dieithriaid sy'n ymddangos yn garedig yn siarad â chi neu'n cynnig helpu tra'ch bod yn defnyddio'r peiriant ATM.
Os ydyn nhw'n parhau i dynnu eich sylw, dylech ganslo’r trafodiad a rhowch eich cerdyn gadw yn ddi-ffws. Weithiau mae sgamwyr yn gosod dyfeisiau ar beiriannau arian parod sy’n trapio eich cerdyn, neu’n ei ‘lyncu’. Yna maen nhw'n adfer y cerdyn cyn gynted ag y byddwch chi wedi gadael.
Os yw peiriant ATM yn llyncu eich cerdyn am ba bynnag reswm, rhowch wybod i gwmni eich cerdyn ar unwaith, yn ddelfrydol gan ddefnyddio eich ffôn symudol tra’n dal i sefyll wrth y peiriant.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn storio rhif cyswllt 24 awr eich cwmni cerdyn yn eich ffôn.
Ar ôl i chi gwblhau trafodiad, rhowch eich arian a’r cerdyn gadw cyn gadael y peiriant arian.
Yn ddelfrydol, dylech ddinistrio neu rwygo derbynebau o’r peiriant arian parod, neu’r gyfriflen neu ymholiadau balans pan fyddwch wedi gorffen â nhw.
Gwiriwch eich cyfriflenni neu’ch cyfrif ar-lein yn gyson, hyd yn oed y manion bach rydych chi'n eu prynu. Dywedwch wrth eich cwmni cardiau ar unwaith os ydych yn amau twyll.
Gwaredwch gyfriflenni neu slipiau sy'n cynnwys manylion eich cerdyn yn ofalus ac yn ddiogel drwy eu llarpio neu eu rhwygo. Mae hyn yn cynnwys eich derbyniadau o beiriannau arian, cyfriflenni bach neu ymholiadau mantolen.
Os oes angen ichi ddinistrio’ch cerdyn banc, gofalwch dorri drwyddo, gan gynnwys y sglodyn metel. Gallwch hefyd ddefnyddio llarpiwr i'w ddinistrio.
Mae’r byd buddsoddiadau yn hynod o agored i dwyll. Gan nad yw nifer o farchnadoedd sy’n dod i’r amlwg yn cael eu rheoleiddio, mae’n anodd i awdurdodau orfodi arferion gweithio da a moesegol.
Mae sgamiau buddsoddi cyffredin yn cynnwys prynu:
Os ydych yn newydd i’r byd buddsoddi, darllenwch fwy o wybodaeth am sgamiau buddsoddi isod.
Gyda’r sgamiau mwyaf cyffredin, mae twyllwyr yn ffonio eu dioddefwyr heb wahoddiad ac yn esgus bod o gwmni buddsoddi. Maen nhw’n ceisio gwerthu buddsoddiadau mewn marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg - marchnadoedd y maen nhw’n honni fydd yn arwain at enillion ariannol uwch na chyfraddau buddsoddiadau sefydledig fel ISAs. Mewn gwirionedd, efallai na fydd yr eitem a gynigir yn bodoli neu'n ddi-werth.
Yn aml, mae sgamwyr yn rhoi manylion, sydd yn eich barn chi, yn gwmni buddsoddi dilys. Efallai bod ganddyn nhw fanylion y buddsoddiadau rydych chi wedi'u gwneud, cyfranddaliadau rydych chi'n eu dal ac yn gwybod eich amgylchiadau personol.
Cofiwch, mae’r sgamwyr yn gwneud eu gwaith cartref a'u busnes nhw yw gwybod cymaint amdanoch chi â phosib.
Yn aml, byddan nhw’n eich ffonio ychydig o weithiau i greu perthynas gyfeillgar. Os gwnewch chi ymateb mewn unrhyw ffordd, byddan nhw’n dal ati, gan geisio magu ymddiriedaeth a'ch perswadio i roi eich arian.
Os ydyn nhw’n cael arian wrthoch chi, mae'n debyg y byddan nhw'n galw eto i'ch perswadio chi i ‘fuddsoddi’ mwy o arian, mewn nwyddau gwahanol o bosib.
Efallai y bydd sgamwyr yn dweud eu bod o gwmni buddsoddi sydd ag enw da; a bydd rhai yn dweud eu bod yn froceriaid stoc neu'n ymgynghorwyr. Gofynnwch am gyngor ariannol annibynnol bob tro cyn i chi fuddsoddi mewn unrhyw beth a gofynnwch i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i weld a yw'r cwmni wedi'i gofrestru. Peidiwch â dibynnu ar ddata Tŷ’r Cwmnïau yn unig.
Byddwch yn ofalus o gwmnïau sy’n honni y gallan nhw adennill arian o fuddsoddiadau coll ar eich rhan am ffi ‘unwaith ac am byth’. Gall hyn fod yr un sgamwyr yn rhoi cynnig arall arni. Fel o’r blaen, maen nhw’n debygol o wybod popeth am hanes eich hen fuddsoddiadau.
Os ydych dros 55 oed, mae'r gyfraith bellach yn caniatáu i chi gael mynediad at eich cynilion pensiwn. Mae gennych reolaeth ar eich pot pensiwn a mater i chi yw penderfynu sut i fuddsoddi'r arian.
Efallai y bydd sgamwyr yn eich targedu er mwyn dwyn eich cynilion. Maen nhw'n gwneud hyn drwy eich perswadio i gyfnewid eich pensiwn a rhoi'r arian mewn buddsoddiadau twyllodrus sydd heb eu rheoleiddio gyda'r addewid o enillion uchel.
Os ydych o dan 55 oed, gallwch drosglwyddo eich pensiwn i gynllun arall, ond ni allwch gael mynediad at yr arian oni bai eich bod yn ddifrifol wael. Os cewch gynnig arian parod i drosglwyddo eich pensiwn, rydych yn debygol o wynebu taliadau treth sy'n werth mwy na hanner eich cynilion pensiwn.
Os cewch chi alwad ddigroeso, neges destun, e-bost neu ffordd debyg sydd heb ei gymell, yn cynnig adolygiad pensiwn, byddwch yn ofalus. Efallai mai rhywun sydd ddim yn gweithredu er eich budd gorau sydd yma.
Peidiwch byth â gwneud penderfyniad yn seiliedig ar alwadau ffôn, pamffledi sgleiniog neu werthwyr hyderus. Pa mor aml rydych chi'n prynu gan werthwr stepen drws? Felly pam ymddiried yn rhywun nad ydych erioed wedi cwrdd ag ef, sy’n cysylltu â chi o gwmni nad ydych erioed wedi clywed amdano, gyda'ch cynilion bywyd?
Gofynnwch am gyngor bob tro gan arbenigwr sydd ddim yn gysylltiedig â’r ‘ymgais i werthu’. Os yn bosib, ymchwiliwch i'r cwmni. Dylai ymgynghorydd ariannol go iawn fod wedi'i gofrestru gyda'r FCA.
Mewn gair, os byddwch yn derbyn galwad ddigroeso, e-bost, neges destun neu unrhyw neges ynglŷn â’ch pensiwn, dewch â’r alwad i ben neu dilëwch y neges ar unwaith. Am fwy o gyngor, ewch i’r Rheoleiddiwr Pensiynau.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio’r rhain a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.