Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall dympio, difrodi neu feddiannu anghyfreithlon fod yn broblem ddrud ac yn un all gymryd llawer o amser i’w datrys. Dyma rai syniadau er mwyn helpu i’w atal rhag digwydd yn y man cyntaf.
Nid yw tipwyr anghyfreithlon yn poeni lle maent yn gadael eu sbwriel, ac os ydynt yn gweld unrhyw ofod posibl byddant y manteisio arno.
Mae llawer ohonynt mwy na thebyg wedi codi tâl ar gwsmer diniwed am waredu eu gwastraff yn gyfreithlon, heb unrhyw fwriad o dalu ceiniog i ddefnyddio safle swyddogol. Mae sgwatwyr hefyd yn manteisio ar adeiladau sy’n hawdd mynd iddynt er mwyn byw yno heb dalu rhent.
Cynhaliwch adolygiad diogelwch manwl o bob eiddo a thir, sydd wedi a heb ei feddiannu, y mae gennych chi gyfrifoldeb amdanynt. Mae hynny’n cynnwys peiriannau a cherbydau. Yna meddyliwch am y ffordd orau i ddiogelu’r asedau hynny er mwyn atal unrhyw un sy’n dymuno eu difrodi, dympio yno neu eu meddiannu.
Defnyddiwch ddull systematig ar gyfer adolygu eich safle gan ddechrau gyda’r ffin ac yna gweithio eich ffordd i’r canol. Chwiliwch am fannau gwan yn y gofod rhwng y perimedr unrhyw adeiladau allanol a’r prif adeilad.
Os na all tresmaswyr gael mynediad i’ch eiddo ni allant ei feddiannu. Fel arfer bydd angen iddynt gael cerbydau ar y safle, felly bydd llai o fynedfeydd yn gwneud y safle yn llai agored i’w feddiannu. Sicrhewch fod eich ffin yn gadarn ac yn ddigon uchel i atal rhywun rhag dringo drosti. Rydym yn argymell uchafswm uchder o 2.1 metr.
Cysylltwch â’ch swyddfa gynllunio leol i gael manylion yr uchder y mae hi’n ei nodi fel diogel neu’r uchaf y gallwch adeiladu heb ganiatâd.
Gall cyfyngwr uchder cerbyd cryf rwystro cerbydau mawr rhag mynd ar eich eiddo. Os yw’r safle ar gau, gallwch atal cerbydau rhag cael mynediad i’r fynedfa neu’r ffin drwy eu gwneud yn gadarn gyda blociau concrid neu folardiau trwm.
Mae amrywiaeth eang o ffensys perimedr ar gael gyda nodweddion diogelwch ychwanegol, megis goleuo. Mae gan rai dewisiadau ffensio ran uchaf sy’n gwthio allan, gan eu gwneud yn anodd eu dringo, megis rhwyll wedi’i weldio (paladin), ond yn caniatáu i rywun weld trwy’r rhwystr. Ni argymhellir ffensys palis bob amser oherwydd mae’n haws ymyrryd â nhw ac ymosod arnynt.
Bydd swyddog diogelwch ar y safle yn rhoi presenoldeb parhaol a gall hysbysu’r awdurdodau yn gyflym os bydd unrhyw ymgais i gael mynediad i’r eiddo.
Mae yna sefydliadau achrededig sy’n gallu darparu meddiannaeth barhaol mewn adeilad. Cofiwch ystyried diogelwch personol eich staff ac atgoffwch hwy i ffonio 999 ar unwaith mewn argyfwng.
Mae bod â gorsaf fonitro gyda mynediad o bell i’r safle yn golygu y gall yr heddlu a’r awdurdod lleol gael eu hysbysu ar unwaith os bydd mynediad anghyfreithlon, boed presenoldeb diogelwch ar y safle ai peidio.
Gwnewch yn siŵr bod eich teledu cylch cyfyng a’ch system larwm yn rhai achrededig, wedi’u gosod yn gywir a’u lleoli mewn modd a fydd yn cwmpasu’r safle ac unrhyw drosedd. Ni ddylent fod mewn safle lle gellir ymosod arnynt yn hawdd neu eu tynnu’n rhydd.
Dau gwmni teledu cylch cyfyng dibynadwy wedi’u hachredu gan y diwydiant: Arolygiaeth Diogelwch Cenedlaethol (NSI) a’r Bwrdd Archwilio Systemau Diogelwch a Larymau (SSAIB).
Gwnewch yn siŵr bod gan eich eiddo lefelau goleuo da na ellir eu cyrraedd. Ni argymhellir goleuadau ar folardiau gan eu bod yn ddigon isel i gael eu fandaleiddio ac nid ydynt yn ddigon llachar i oleuo wyneb unrhyw dresmaswr posibl.
Edrychwch ar ofod eich blaengwrt a’r adeiladau sydd nesaf ato. Ystyriwch barcio cerbydau neu wagenni trwm yno er mwyn cyfyngu ar y gofod sydd ar gael. Os yw’r maes parcio eisoes yn llawn, bydd yn llai atyniadol i droseddwyr.
Os nad oes gennych unrhyw gerbydau neu drelars sy’n ddigon mawr i wneud hyn, ystyriwch a oes unrhyw gwmnïau a allai ddefnyddio’r gofod i barcio eu cerbydau neu wagenni ac a fyddai hwn yn opsiwn ymarferol ar gyfer meddiannu’r gofod yn gyfreithlon.
Gall parcio cerbydau yn agos at, neu o flaen, mynedfeydd i adeiladau leihau pa mor agored ydynt i drosedd oherwydd ei bod yn anoddach mynd i mewn iddynt. Sicrhewch ei bod hi’n ddiogel gwneud hyn er mwyn cydymffurfio â rheoliadau tân.
Gall cyfleustodau fod yn atyniadol i unrhyw ddarpar feddiannwr. Gall torri’r cyflenwad trydan neu ddŵr i’r safle, os nad oes eu hangen, wneud i sgwatwyr feddwl eilwaith.
Byddwch yn ymwybodol y bydd datgysylltu cyfleustodau yn effeithio ar unrhyw nodweddion diogelwch sydd gennych, megis larwm lladron neu deledu cylch cyfyng. Bydd angen i chi hefyd ystyried rheoliadau tân.
Targedir rhai adeiladau ar gyfer rêfs anghyfreithlon oherwydd bod ynddynt neuadd neu ffreutur fawr. Felly cynghorir yn gryf eich bod yn diogelu pob pwynt mynediad.
Bydd pa mor agored yw’r adeilad i droseddwyr yn dibynnu ar nifer o ffactorau sy’n cynnwys ei leoliad, lefelau troseddu lleol a’r math o ffiniau sydd yno. Os yw’r safle’n agos at y ffin, bydd hyn yn ei wneud yn haws ei dargedu gan nad oes haen ychwanegol o ddiogelwch.
Diogelwch eich drysau a’ch ffenestri drwy ddefnyddio caeadau neu griliau achrededig.
Os nad yw cyflogi swyddog diogelwch yn opsiwn, ystyriwch ddefnyddio swîts ar amserydd i greu’r ‘teimlad’ ei fod wedi’i feddiannu.
Gall gosod arwyddion ar eich eiddo weithredu fel atalydd. Os oes gennych unrhyw gynhyrchion diogelwch ar waith yn eich eiddo – megis teledu cylch cyfyng – rhowch arwydd mewn man amlwg lle gellir ei weld yn glir.
Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â phwerau gorfodi ar gyfer gwersylla anghyfreithlon ar gael gan y Swyddfa Gartref.