Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fandaliaeth yw pan fydd eiddo’n cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi’n faleisus - yn aml heb fod lladrad yn digwydd. Diogelwch eich eiddo gyda’n cyngor isod.
Efallai ei bod yn teimlo bod eich tŷ yn fwy diogel y tu ôl i wal neu ffens uchel ond gallai’r ffaith na ellir ei weld o’r stryd ei wneud yn darged mwy atyniadol.
Gwnewch yn siŵr y gellir gweld eich eiddo yn hawdd gan gymdogion a’r cyhoedd drwy sicrhau nad yw gwrychoedd, ffensys a waliau yn y blaen ddim uwch nag un metr. Yna, ni fyddwch yn rhoi lle i leidr guddio.
Gall defnydd clyfar o oleuo hefyd gadw lladron draw. Rydym yn argymell goleuo lefel isel gwyn o’r gwyll hyd y wawr, yn arbennig mewn ardaloedd lle mae’r gwelededd yn wael megis ochr neu gefn yr eiddo.
Dylai goleuadau fod o leiaf dair metr o’r llawr gyda chasys gwrth-fandaliaeth arnynt.
Drwy wneud hyn, rydych yn marcio eich tir – ac mae unrhyw un sy’n croesi’r llinell honno’n ddiwahoddiad neu heb awdurdod yn tresmasu.
Gallwch wneud hyn mewn nifer o ffyrdd, megis gosod ffens isel, wal, gwrych, gwely blodau neu lwyni bach. Mae’n well osgoi gardd gerrig neu gerrig mawr gan y gall fandaliaid ddefnyddio’r rhain.
Os ydych yn creu dreif, gwnewch e’n lliw gwahanol i liw’r ffordd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu mannau bregus megis ffenestri ar y llawr gwaelod gyda llwyni pigog un metr o uchder. Gall gwifren bigog byd natur warchod eich eiddo ac edrych yn dda.
Mae ffilm ddiogelwch – gorchudd clir neu anhryloyw y gellir ei ludo ar ffenestri – yn ei gwneud hi’n anoddach i dorri’r gwydr.
Mae waliau gwyn yn denu fandaliaid gyda phaent chwistrell ond gall haen gwrth-graffiti sy’n atal paent rhag bondio i wyneb y wal helpu i rwystro fandaliaeth.
Mae diogelwch yn golygu mwy na dim ond cadw eich gatiau ar gau a’ch drysau, ffenestri a siediau ar glo.
Yn gyntaf, os oes gennych arwyneb y gall rywun eistedd yno - megis wal isel - gwnewch yn siŵr nad yw’n hawdd eistedd arni. Er enghraifft, mae potiau gyda phlanhigion pigog yn edrych yn dda ond yn boen i unrhyw un sy’n loetran neu westeion diwahoddiad. Hefyd, diogelwch ymyl a ffin gefn eich eiddo gyda ffens dwy fetr o uchder gyda dellt ar ei phen sy’n ysgafn ac yn methu â chynnal pwysau person. Hefyd, mae’n gwneud sŵn mawr os bydd rhywun yn ceisio ei defnyddio i gael mynediad.
Mae’n ffaith bod sbwriel yn denu sbwriel. Os yw eiddo yn flêr, ni fydd rhai pobl yn meddwl eilwaith am ychwanegu at y blerwch neu loetran yn yr ardal.
Mae eiddo glân a thaclus yn cyfleu teimlad o drefn. Dyna pam ein bod yn eich cynghori i beidio â gadael sbwriel, ysgolion, biniau ar olwynion, neu unrhyw beth arall y gellid ei ddefnyddio ar gyfer byrgleriaeth neu fandaliaeth, o gwmpas.
I gael rhagor o gyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am gynhyrchion atal troseddu, ewch i www.securedbydesign.com – menter ddiogelwch swyddogol yr heddlu.