Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cerbydau sydd wedi’u parcio mewn ardaloedd tywyll a llai prysur yn fwy tebygol o gael eu difrodi neu fod rhywun yn torri mewn iddynt oherwydd na all y tramgwyddwyr gael eu gweld yn hawdd; mae hi bob amser yn syniad da i barcio yn rhywle sydd wedi’i oleuo’n dda, lle mae pobl yn cerdded a lle mae’n debygol y bydd traffig yn pasio. Po brysuraf, y gorau yw’r rheol orau.
Hefyd, os yw eich car yn sefyll allan fel un, dyweder, sy’n fwy drud na cheir eraill yn yr ardal, gallai fod yn darged. Dyna pryd y mae’n werth ystyried parcio yn rhywle lle mae’n debygol y bydd eich car yn fwy diogel. Efallai na fydd yn y man mwyaf hwylus neu gyfleus, ond gallai atal difrod i’ch cerbyd. Gwell diogel nac edifar.
Mae gadael eitemau megis iPadiau, ffonau symudol a gliniaduron yn y golwg yn gofyn am drwbl. Os na allwch fynd â nhw gyda chi, yna cuddiwch nhw. Mae’r un peth yn wir am fagiau a dillad.
O ran dyfeisiau llywio â lloeren, mae’n syniad da i guddio’r ddyfais a’r gwpan sugno sy’n glynu wrth ffenestr, ond cofiwch wirio a oes marc ar y gwydr sy’n arwydd bod gennych un yn y car.
Ystyriwch ddefnyddio ffilm ddiogelu. Mae fersiwn glir ac anrhyloyw ar gael ac mae’n cryfhau’r gwydr ac yn gadael fawr ddim difrod os bydd rhywun yn ceisio torri i mewn i’ch cerbyd.
Safon genedlaethol yw’r Cynllun Parcio Diogelach sy’n meincnodi diogelwch meysydd parcio. Mae ‘Park Mark’ yn golygu bod y safle wedi cael ei asesu a’i wirio gan yr heddlu.
Ewch i wefan Park Mark i gael rhagor o wybodaeth ac i ganfod meysydd parcio sy’n rhan o’r cynllun.
Os yn bosibl, pan fyddwch yn parcio, ceisiwch adael ychydig o le rhwng eich car chi a cheir eraill. Bydd hyn nid yn unig yn atal difrod damweiniol, ond hefyd yn golygu bod lladron a fandaliaid yn fwy tebygol o gael eu gweld.
Pan fyddwch yn parcio eich cerbyd, dilynwch y cynghorion syml hyn:
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn riportio difrod troseddol neu fandaliaeth i’w cerbyd, ond os bydd yn digwydd i chi, rydym yn eich annog i’w riportio ar unwaith. Gallwch riportio ar-lein.