Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae eich cartref mor ddiogel â’r man mynediad gawnaf. Dyna pam ei bod mor bwysig i fod â drysau a ffenestri sydd mor gadarn â phosibl. Dilynwch ein cyngor er mwyn helpu i gadw darpar fyrgleriaid allan.
Boed eich bod yn byw mewn fflat neu dŷ, bydd eich drws ffrynt bod amser yn dweud wrth leidr pa safon o ddiogelwch sydd yn eich cartref. Os yw’n edrych yn gadarn iawn ac yn un fyddai’n gwrthsefyll lleidr, yna bydd yn meddwl eilwaith cyn ceisio mynd i mewn.
Bydd saer cloeon sy’n perthyn i Gymdeithas y Seiri Clo yn gwirio i weld a yw eich drws yn gadarn ac wedi’i wneud o bren soled neu ddeunydd cyfansawdd cryf. Gall y saer cloeon hefyd atgyfnerthu’r ffrâm a gwirio a yw’r cloeon a’r colfachau wedi’u cymeradwyo gan y Safon Brydeinig.
Mae drysau patio sy’n llithro yn gallu cael eu gorfodi’n agored, felly gwiriwch fod gan eich drysau chi dyfais gwrth-godi wedi’i gosod fel na ellir eu codi allan o’r fram.
Mae gan rai drysau uPVC gloeon sy'n ymwthio allan o'r ffrâm ar y tu allan (cloeon proffil ewro i'r rhai cyfarwydd). Os gwnewch eich un chi, yna ystyriwch gael saer cloeon i newid y clo i un byrrach na ellir ei dynnu.
1. Os oes gan eich drws flwch llythyrau, bydd gosod giard ar gefn y drws yn atal rhywun rhag ymestyn i mewn gyda ffon neu fachyn i bysgota am eitemau cyfagos megis bag llaw neu allweddi – na ddylid byth eu cadw yn agos at ddrysau allanol. Cofiwch am fflapiau cathod a chŵn hefyd.
2. Gellir atgyfnerthu ffenestri gyda ffilm arbennig neu drwy osod paneli wedi’u lamineiddio arnynt.
3. Argymhellir tyllau edrych a chadwyni diogelwch fel y gellir gweld pwy yw unrhyw un sy’n ymweld cyn eich bod yn agor y drws.
4. Cofiwch ddefnyddio'r ddau glo bob tro a gwirio i sicrhau bod y drws wedi'i gloi ddwywaith bob tro y byddwch chi'n gadael eich cartref.
5. Mae tro syml i glicied nos clo dwbl yn rhoi diogelwch a thawelwch meddwl ychwanegol i chi.
6. Mae bariau drws, megis Bar Llundain neu Bar Birmingham yn cryfhau’n fawr ffrâm y drws ac yn rhoi diogelwch rhagorol yn erbyn rhywun sy’n ceisio gorfodi drws i agor neu ei gicio’n agored.
7. Mae giard clo yn gwneud hynny; mae’n diogelu twll y clo a’r clo rhag i rywun ymyrryd ag ef ac mae’n ddyfais atal wych.
Os ydych chi’n gosod drws ffrynt newydd, gosodwch gynhyrchion sydd ag achrediad diogelwch bob amser gan fod y rhain yn cael eu profi hyd at safonau Prydeinig ac maent wedi’u cymeradwyo gan y diwydiant yswiriant. Sgwrsiwch â’ch saer cloeon ynglŷn â safon PAS 24 2022.
Os ydych yn rheolwr adeiladau sy’n gyfrifol am fflatiau sydd wedi’u lleoli mewn adeiladau mwy (er enghraifft, mewn bloc o fflatiau), dylech ymgyfarwyddo â’r gofynion diogelwch tân diweddaraf cyn gwneud unrhyw newidiadau i ddrysau ffrynt.
Mae nifer o systemau teledu cylch cyfyng ar y farchnad i’ch helpu chi i amddiffyn eich cartref ac aelodau eich cartref. Mae rhain yn cynnwys Clychau Drws Fideo sy’n gallu eich helpu i ganfod pwy neu beth sydd wrth eich drws.
Byddwch yn ymwybodol fodd bynnag os ydych yn ystyried defnyddio un bod angen i chi wneud hynny mewn modd sy’n parchu preifatrwydd pobl eraill. Cyfeiriwch at i canllaw ynglŷn â pha gamau y mae angen i chi eu cymryd er mwyn diogelu preifatrwydd pobl.