Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fyddwch yn mynd allan mae’n bwysig gadael eich cartref yn ddiogel. Gall bod â ‘threfn gadael’ helpu i sicrhau nad ydych yn anghofio’r pethau amlwg, ond pwysig, fel peidio â gadael eitemau gwerthfawr wrth ymyl ffenestri, neu fod dim golau ymlaen os bydd hi’n dywyll cyn eich bod yn cyrraedd adref. Dyma restr atgoffa gyflym ynglŷn â beth i’w wneud cyn i chi fynd allan.
Ceisiwch fynd i’r arfer o ddilyn eich trefn eich hun pan fyddwch yn cloi eich cartref. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw beth. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol cyn mynd allan:
cau a chloi eich holl ddrysau a ffenestri, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig funudau y byddwch allan
cloi unrhyw ddrws yn ddwbl
gwneud yn siŵr bod unrhyw eitemau gwerthfawr o’r golwg
cadw bagiau llaw ymhell oddi wrth y blwch llythyrau neu fflap y gath a chuddio pob allwedd gan gynnwys allweddi’r car, gan y gallai lleidr fachu allweddi neu eitemau gwerthfawr drwy agoriad bychan
peidio byth â gadael dogfennau’r car neu ID mewn mannau amlwg fel y gegin neu’r cyntedd
gyda’r hwyr, cau'r llenni a gadael y golau ymlaen
os ydych allan trwy’r dydd, cynghorir chi i ddefnyddio amserydd i droi’r golau ymlaen yn awtomatig gyda’r hwyr
arfogi eich larwm lladron
gwneud yn siŵr bod y gât ochr wedi’i chloi
cloi eich sied neu garej
cloi eich beic y tu fewn i sied neu garej gadarn, wrth ddyfais sydd wedi’i bolltio i’r llawr neu’r wal, fel angor llawr
Dyma bump cyngor i’ch helpu i gadw’ch cartref a’ch eiddo yn ddiogel pan fyddwch i ffwrdd:
os ydych chi i ffwrdd ar wyliau ac am roi rhywbeth ar gyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr nad yw eich postiadau yn gyhoeddus ac mai dim ond eich ffrindiau all eu gweld
gadewch oleuadau a radio ar amserydd fel bod yr eiddo’n edrych fel bod rhywun yno
gofynnwch i gymydog yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi i gadw llygad ar eich eiddo neu ymunwch â Chynllun Gwarchod Cymdogaeth neu Gynllun Preswylwyr
ystyriwch ofyn i’ch cymdogion gau eich llenni gyda’r hwyr a pharcio eu car o flaen eich tŷ
cofiwch ganslo’r papur newydd a’r llaeth os ydynt yn cael eu danfon