Mae Swyddogion Patrôl a Chymdogaethau Wrecsam Wledig yn parhau ymdrin hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws yr ardal. Mae nhw'n cydweithio hefo'n hasiantaethau partner ni, yn rhoi ymateb parhaus ac affeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) a gweithgarwch troseddol, nodi atebion i atal aildroseddu, defnyddio rhaglenni addysg ac ymyrraeth. Mae Ymgyrch Lampoon hefyd wedi dechrau mewn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Rhiwabon. Da ni hefyd wedi bod yn rhagweithiol o amgylch yr ardal, gan ymgymryd hefo nifer o warantau cyffuriau a arweiniodd at gyfanswm o saith arestiad am droseddau sy'n gysylltiedig hefo cyffuriau a meddu arfau ymosodol. Cynhaliwyd gwarant arall ar safle yn Rhos a arweiniodd at ddarganfod tyfiant canabis cynhwysfawr a dros 250 o blanhigion canabis yn cael eu hatafaelu. Mae Swyddogion Cymdogaethau wedi llwyddo sicrhau Gorchymyn Cau ar gyfer cyfeiriad yng Ngwersyllt yn dilyn adroddiadau o weithgarwch gwrthgymdeithasol, niwsans a chyffuriau, tra hefyd yn darparu diogelu i'r preswylwyr bregus. Llwyddodd swyddogion ddal tri unigolyn sy'n gyfrifol am dros bump ar hugain o droseddau cerbydau a ddigwyddodd mewn un noson o amgylch ardal Rhiwabon. Mae menter newydd hefyd wedi'i chyflwyno gan ein Tîm Cymdogaethau, gan weithio hefo rheolwyr siopau er mwyn sicrhau casglu tystiolaeth effeithiol, ymchwiliadau cyflym ac arestio pobl o dan amheuaeth am siopladradau. Dros gyfnod y gaeaf, dechreuwyd Ymgyrch Luna er mwyn gwella diogelwch merched yn ystod oriau'r tywyllwch. Bydd yr ymgyrch yn gweld cynnydd mewn patrolau amlwg ledled yr ardal yn yr wythnosau nesaf, er mwyn ymdrin â'r ymddygiad troseddol hwn, a rhoi tawelwch meddwl i'r bobl hynny sy'n byw a gweithio yn yr ardal.