Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Parhau hefo'n sylw ar ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol.
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae Swyddogion Patrôl a Chymdogaethau Wrecsam Wledig yn parhau ymdrin hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws yr ardal. Mae nhw'n cydweithio hefo'n hasiantaethau partner ni, yn rhoi ymateb parhaus ac affeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) a gweithgarwch troseddol, nodi atebion i atal aildroseddu, defnyddio rhaglenni addysg ac ymyrraeth. Mae Ymgyrch Lampoon hefyd wedi dechrau mewn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Rhiwabon. Da ni hefyd wedi bod yn rhagweithiol o amgylch yr ardal, gan ymgymryd hefo nifer o warantau cyffuriau a arweiniodd at gyfanswm o saith arestiad am droseddau sy'n gysylltiedig hefo cyffuriau a meddu arfau ymosodol. Cynhaliwyd gwarant arall ar safle yn Rhos a arweiniodd at ddarganfod tyfiant canabis cynhwysfawr a dros 250 o blanhigion canabis yn cael eu hatafaelu. Mae Swyddogion Cymdogaethau wedi llwyddo sicrhau Gorchymyn Cau ar gyfer cyfeiriad yng Ngwersyllt yn dilyn adroddiadau o weithgarwch gwrthgymdeithasol, niwsans a chyffuriau, tra hefyd yn darparu diogelu i'r preswylwyr bregus. Llwyddodd swyddogion ddal tri unigolyn sy'n gyfrifol am dros bump ar hugain o droseddau cerbydau a ddigwyddodd mewn un noson o amgylch ardal Rhiwabon. Mae menter newydd hefyd wedi'i chyflwyno gan ein Tîm Cymdogaethau, gan weithio hefo rheolwyr siopau er mwyn sicrhau casglu tystiolaeth effeithiol, ymchwiliadau cyflym ac arestio pobl o dan amheuaeth am siopladradau. Dros gyfnod y gaeaf, dechreuwyd Ymgyrch Luna er mwyn gwella diogelwch merched yn ystod oriau'r tywyllwch. Bydd yr ymgyrch yn gweld cynnydd mewn patrolau amlwg ledled yr ardal yn yr wythnosau nesaf, er mwyn ymdrin â'r ymddygiad troseddol hwn, a rhoi tawelwch meddwl i'r bobl hynny sy'n byw a gweithio yn yr ardal.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Amlygrwydd ac ymgysylltu hefo'n cymunedau ni.
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae Timau Patrôl Cefn Gwlad a Chymdogaethau Wrecsam Wledig yn cyflawni rhai o'r canlyniadau 'allan o'r orsaf' uchaf yn yr heddlu. Mae'n golygu bod swyddogion yn treulio mwy o amser yn y cymunedau maen nhw'n eu plismona. Mae mwy o'n staff ni bellach wedi'u hyfforddi i ddefnyddio ein beiciau trydan ni'n saff, gan ddarparu ffynhonnell amgen o batrôl symudol gweladwy gan ein Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu. Da ni'n parhau i hyrwyddo'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel ffordd amgen o ymgysylltu a chyfathrebu, gan ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd yn yr ardal. Yn ogystal, 'da ni ar gael i gyfarfod yn uniongyrchol hefo'r cymunedau drwy ein cymorthfeydd heddlu ni sy'n newid rhwng Rhos a Llai bob mis. Os yw'n bosibl, mae Tîm Plismona Cymdogaethau Wrecsam Wledig yn parhau i ddarparu presenoldeb gweladwy mewn digwyddiadau cymunedol wrth hefyd fynychu adeiladau y tu allan i'r ysgol er mwyn monitro diogelwch ar y ffyrdd.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Plismona ein Ffyrdd Cymunedol.
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae swyddogion Rual Wrecsam wedi bod yn cydweithio hefo'n cymunedau ni er mwyn nodi a lleihau troseddau ffyrdd gan gynnwys goryrru a pharcio anystyriol. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy addysg hefo ysgolion lleol a chyfleoedd gorfodi hefo'n Huned Troseddau Ffyrdd ni. Mae ein Tîm Plismona Cymdogaethau ni’n parhau i ddefnyddio cyfleoedd i gynnal ymarferion gorfodi cyflymder ac addysg mewn lleoliadau a nodwyd. Mae ein cydweithwyr yn GAN BWYLL hefyd yn mynd i safleoedd dynodedig lle 'da ni wedi derbyn adborth a materion gan ein cymunedau ni. Mae Ymgyrch Vroom wedi dechrau yn Wrecsam Wledig gan ymdrin hefo'r defnydd cynyddol o e-feiciau, e-sgwteri, a beiciau oddi ar y ffordd anghyfreithlon drwy ddefnyddio cudd-wybodaeth a thargedu penodol fel Gwersyllt a Glyn Ceiriog.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026