Gwerthwr cyffuriau o Wrecsam wedi cael ei garcharu
16:26 27/08/2026Cafodd Zak De-Gale, o'r Wern, Wrecsam ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis
Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Cafodd Zak De-Gale, o'r Wern, Wrecsam ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis
‘Da ni’n apelio am dystion ar ôl i ddynes ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam ar ddydd Sadwrn 15 Awst.
Mae Prif Gwnstabl Amanda Blakeman wedi ymuno â phenaethiaid heddlu o bob rhan o Gymru a Lloegr i gefnogi galwad genedlaethol ar y Llywodraeth i atal rhyddhau'r rhai a gafwyd yn euog am eu rhan yn lladd PC Andrew Harper yn gynnar.
Mae'r Tîm Ymchwilio Cam-drin Plant Ar-lein wedi ymroi stopio cam-drin plant ar-lein yng Ngogledd Cymru
Drwy Ymgyrch Virtue, mae swyddogion dinas Wrecsam yn gweithio efo partneriaid er mwyn ymdrin â digwyddiadau trais yn erbyn merched a genethod (VAWG)
Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghanol y Ddinas
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae swyddogion cymdogaethau a phatrôl yn parhau canolbwyntio ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas. Mi gychwynnwyd Ymgyrch Volt ym mis Ebrill, lle nodwyd llecynnau ac yna mi gyflawnodd swyddogion batrolau amlwg, cynyddu ymgysylltiad, nodi unigolion sy’n cymryd rhan a gwaith partneriaeth efo cyfiawnder ieuenctid a Chyngor Wrecsam er mwyn ymdrin â’r materion hyn.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Ymgyrch Lex
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Yr economi gyda’r nos – Parhau patrolau amlwg ar nosweithiau Wener a Sadwrn er mwyn cynorthwyo’r economi gyda’r nos. Mae’r presenoldeb uwch hwn yn helpu atal anrhefn, diogelu unigolion bregus a chynnig tawelwch meddwl i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Gwaith partneriaeth
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae swyddogion cymdogaethau’n cynnal cysylltiad cydweithredol gryf efo Safonau Masnach a Gwarchod y Cyhoedd Wrecsam, gan ddatblygu cudd-wybodaeth er mwyn cyflawni sawl atafaeliad ac ymchwiliad llwyddiannus mewn nifer o farchnadoedd masnachol yng nghanol y ddinas. Mae’r ymweliadau hyn wedi tawelu meddwl y gymuned ein bod ni’n gweithredu ar unrhyw wybodaeth. Mae canlyniadau cadarnhaol yn cael eu hysbysu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae Timau Cymdogaethau Dinas Wrecsam yn parhau i weithio tuag at gyflawni’r cyflawniad gorau o ran troseddau manwerthu. Nid yn unig mae hyn yn effeithio ar fân-werthwyr, ond hefyd y staff sy’n gweld ac yn dioddef ymddygiad y troseddwyr. Mae nifer o droseddwyr mynych yn parhau i achosi peryg a niwed i’r gymuned, ac mae cymryd camau cadarn yn parhau, wrth hefyd weithio’n galed efo mân-werthwyr er mwyn lleihau’r risg i’w siopau a’u gweithwyr.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Trais yn Erbyn Merched a Genethod
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae menter newydd, sef Ymgyrch Virtue, ar fin cael ei chychwyn er mwyn cynorthwyo’r Siarter Merched ymhellach, a ddechreuwyd yn ddiweddar yng nghanol dinas Wrecsam. Nod y fenter hon ydy canolbwyntio ar addysg ar gyfer holl bartneriaid ac eiddo trwyddedig. Mi ymgymerwn ni â diogelu a chamau cadarn er mwyn atal Trais yn Erbyn Merched a Genethod. Mae HGC hefyd yn gweithio ar y cyd efo Cyngor Wrecsam er mwyn creu mannau diogel yng nghanol y ddinas.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Cynyddu ymgysylltiad / hybiau
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mi fydd swyddogion o’r Tîm Cymdogaethau yn cynnal sesiynau ymgysylltiad yn y ‘Cop Shop’ a’r gorsaf fysiau. Mi fydd swyddogion ar gael yn y lleoliadau hyn yn ddyddiol, er mwyn cynnig gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru yn y cnawd i’r gymuned, er mwyn ymdrin ag unrhyw bryderon neu gynnig cyngor a help.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026