‘Da ni wedi cyflwyno 16 Cerdyn Melyn am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar draws ein ardal ni, i bobl ifanc yn achosi niwsans ac oedolion yn achosi problemau cymdogol. ‘Da ni wedi cynnal patrolau ar y cyd efo amryw o asiantaethau partner, fel Cartrefu a swyddogion gorfodaeth Strydoedd Gwynedd, yn ein parthau stopio troseddau newydd ym Mlaenau Ffestiniog. Mae dau oedolyn wedi derbyn Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned Llawn am gamfanteisio’n barhaus ar oedolyn bregus yn ardal Blaenau Ffestiniog. Mae dau oedolyn wedi derbyn Hysbysiadau Rhybudd Gwarchod y Gymuned am gamfanteisio ar ddynes fregus yn ardal y Bermo. O ganlyniad, ‘da ni heb gael adroddiadau pellach o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad, sydd wedi ail-sefydlu ymddiriedaeth a hyder yn y gymuned. ‘Da ni hefyd wedi cynnal patrolau penodol yn ardaloedd Bala a Dolgellau, ar ôl derbyn adroddiadau bod pobl ifanc yn aflonyddu unigolion hŷn yn y gymuned. O ganlyniad, mae sawl atgyfeiriad wedi’i gyflwyno i’n partneriaid ni yn y tîm cyfiawnder ieuenctid er mwyn gweithio efo’r bobl ifanc hyn. Yn ddiweddar, mae dyn hysbys o ardal Blaenau Ffestiniog wedi cael dedfryd 46 wythnos yn y carchar am droseddau cam-drin domestig. Mi roedd hefyd yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref yn rheolaidd. ‘Da ni wedi gweithio efo perchennog eiddo masnachol ar Stryd Fawr Blaenau, er mwyn diogelu eu heiddo sydd wedi atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad. Mae digwyddiadau cerddoriaeth mawr wedi’u cynnal yn ardaloedd Bala a’r Bermo yn ystod mis Mai. Mi wnaeth ein tîm ymdrin â nifer o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymryd llawer iawn o alcohol oddi wrth bobl o dan oed. Mi helpodd hyn sicrhau bod digwyddiadau’n rhedeg yn esmwyth, a sicrhau bod pawb a ddaeth yn mwynhau eu hunain. Mae holiaduron ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u dosbarthu yn ardaloedd Penrhyndeudraeth a Thremadog, efo’r nod o ddeall y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar y gymunedau er mwyn ceisio eu datrys. Mi gyflawnwyd gweithio partneriaeth pellach yn ardaloedd Porthmadog efo Grŵp Cynefin, wrth iddyn nhw gynnal eu Sioe Deithiol Troseddau Casineb. Mi roedd gwaith ar y cyd pellach yn cynnwys cyflawni ymweliadau i ardaloedd eraill Porthmadog efo Grŵp Cynefin. ‘Da ni wedi cynnal patrolau penodol yng Nghricieth oherwydd pryderon ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid yno. Mae nifer o unigolion wedi cael gwŷs i’r llys oherwydd torri amodau Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ym Mhwllheli. Mi gyflawnwyd ymweliad ar y cyd efo’r adran dai yn ardal Cesail y Bryn, Pwllheli oherwydd pryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus. Mi gyflawnwyd gwaith ar y cyd efo’r Adran Dai yn Harlech a Phrenteg, er mwyn ymdrin â phryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn yr ardaloedd hyn.