Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydy hi'n teimlo y gallai'r sefyllfa droi'n gas neu'n dreisgar yn fuan iawn? Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes angen cymorth arnoch ar unwaith? Os felly, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Mae StreetSafe yn wasanaeth i unrhyw un ddweud wrthym yn ddienw am fannau cyhoeddus lle rydych wedi teimlo neu’n teimlo’n anniogel, oherwydd materion amgylcheddol, e.e. goleuadau stryd, adeiladau wedi’u gadael neu fandaliaeth a/neu oherwydd rhai mathau o ymddygiad, e.e. cael eich dilyn neu eich cam-drin ar lafar.
Sylwch: Nid adnodd i riportio troseddau neu ddigwyddiadau yw ‘StreetSafe’.
Os oes rhywbeth wedi digwydd i chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod (gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus ar-lein) gallwch ein ffonio ni ar 101 neu riportio ar-lein.
Os nad ydych yn siŵr mai trosedd yw'r hyn rydych chi wedi'i brofi, darllenwch ein cyngor am hyn.
Rydych chi ar Cam 1 o uchafswm o 1
Rydych wedi cwblhau 0%