Stamp amser presennol: 18/09/2026 12:15:31
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Dedfrydu pumed aelod o Grŵp Troseddau Trefnedig am ymgyrch genedlaethol o ddwyn cerbydau uchel eu gwerth

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 12:14 10/09/2026

Dziugas Klinavicius yw’r pumed aelod o grŵp troseddau trefnedig i gael ei garcharu am ei ran mewn ymgyrch dwyn cerbydau heddiw.

Klinavicius WM.png

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, targedodd Grŵp Troseddau Trefnedig (OCG) o Lithwania gerbydau gwerth uchel gan ddefnyddio ymosodiadau cyfnewid signal di-allwedd ledled Gogledd Cymru a Swydd Gaer, gan ddwyn wyth cerbyd a cheisio dwyn pum cerbyd arall, gyda chyfanswm gwerth o £320,000.

Roedd y gang yn targedu cerbydau Mercedes a BMW yn bennaf yn ardaloedd Llandudno, Cyffordd Llandudno, Bae Penrhyn, Abergele, y Rhyl, Prestatyn, Northwich a Crewe. Defnyddiwyd offer cyfnewid signal di-allwedd soffistigedig i ryng-gipio signalau a allyrrir gan oriadau ceir y perchnogion o fewn eu heiddo, cyn defnyddio dyfeisiau jamio signal GPS i atal unrhyw dracwyr cerbydau rhag trosglwyddo signal.

nimari 1.png

Byddai’r troseddwyr yn aml yn gorchuddio camerâu teledu cylch cyfyng a chamerâu drysau â thâp gludiog, ac yn defnyddio platiau cofrestru wedi’u clonio o’r un math a model â’r cerbydau yr oeddent yn eu targedu.

nimari 2.png

Drwy dystiolaeth DNA a gafwyd o ddarnau o dâp gludiog a adawyd ar gamera teledu cylch cyfyng un dioddefwr, ynghyd â data telathrebu a negeseuon o wasanaethau sgwrsio wedi’u hamgryptio, adnabuwyd y lladron fel Tomas Politovas a Dziugas Klinavicius o Lithiwania.

Pan gafodd cerbyd Mercedes ei ddwyn o gyfeiriad yn Llandudno ar 7 Mawrth 2025, darganfuwyd  fod y cerbyd wedi teithio i ardal Norfolk ar blatiau cofrestru wedi’u clonio.

Pan gynhaliodd swyddogion o Heddlu Norfolk gyrch mewn uned ddiwydiannol yn ardal King’s Lynn yn ddiweddarach yr un diwrnod, canfuwyd y Mercedes wedi’i ddatgymalu’n rhannol, gyda rhannau wedi’u gosod ar baledi a’u lapio’n barod i’w hallforio.

Cafodd tri dyn arall o Lithwania, Rytis Ardavicius, Arnas Jankauskas a Stasys Venckus, eu harestio yn yr uned. Yn ddiweddarach, cawsant eu cyhuddo o gynllwynio i dderbyn nwyddau wedi’u dwyn. Dedfrydwyd Rytis i 46 wythnos o garchar a’i allgludo, Stasys i 27 mis o garchar a’i allgludo, ac Arnas i 27 mis o garchar a’i allgludo.

Bymtheg diwrnod yn ddiweddarach, cafodd troseddwyr a oedd yn ceisio dwyn BMW eu dal yn oriau mân y bore ym Mhrestatyn gan swyddogion lleol ar batrôl.

Aeth y swyddogion ar eu hôl ac, wedi i un ohonynt, Tomas Politovas, gael ei ddal, canfuwyd ei fod yn meddu ar offer jamio signalau, tâp gludiog, platiau cofrestru wedi’u clonio a ffôn symudol.

nimari 3.png

Cyhuddwyd Politovas o gynllwynio i gyflawni lladradau cerbydau ledled Gogledd Cymru a Swydd Gaer. Roedd ei ffôn symudol yn cynnwys yr allwedd i ap negeseuon wedi’i amgryptio a ddefnyddiwyd gan y grŵp i gyfathrebu, ymchwilio a chynllunio lladradau cerbydau ledled y wlad.

Plediodd Politovas yn euog a dedfrydwyd ef i bedair blynedd o garchar, ac ers hynny mae wedi cael ei allgludo.

Yna lansiwyd ymgyrch genedlaethol i ddal aelod olaf y gang, Dziugas Klinavicius.  Cafodd ei  arestio gan swyddogion o Heddlu Manceinion Fwyaf ar ôl iddo geisio ffoi o gefn tacsi yn ardal Oldham ar 29 Gorffennaf eleni.

Trosglwyddwyd Klinavicius i’r ddalfa yng Ngogledd Cymru a’i gyhuddo o gynllwynio i gyflawni lladradau cerbydau a defnyddio offer i ymyrryd â thelegraffiaeth ddiwifr.

Plediodd yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 28 Awst 2026 a dedfrydwyd ef heddiw i dair blynedd a naw mis o garchar, gyda’r barnwr yn cyfeirio materion alltudio at y Swyddfa Gartref.

Wrth siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ash Davies:

“Roedd hwn yn ymchwiliad hir a chymhleth, ac roedd Klinavicius wedi chwarae rhan ganolog yng ngweithgarwch troseddol y gang.

“Mae’r ddedfryd a osodwyd ar Klinavicius heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb ei droseddau.

“Mae troseddau er elw yn parhau’n flaenoriaeth i’r heddlu oherwydd ein bod yn gwybod am yr effaith ddinistriol ar ddioddefwyr.

“Fel yn yr achos hwn, byddwn yn parhau i chwalu’r grwpiau troseddau trefnedig sydd y tu ôl i ladradau ceir drwy adnabod y bobl, y patrymau troseddu a’r lleoliadau sy’n gysylltiedig â’r troseddau hyn, a gweithio gyda chydweithwyr mewn heddluoedd eraill, gan ddangos na fyddwn yn stopio ar unrhyw gyfrif i fynd i’r afael â’r broblem hon.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026​. Cedwir pob hawl.