Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ateb galwadau 999 a helpu dioddefwyr i ddadansoddi tystiolaeth ddigidol ac ail-greu man a lle gwrthdrawiad difrifol – yr wythnos hon 'da ni'n dathlu'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig sy'n asgwrn cefn plismona.
Mae heddluoedd ledled y DU unwaith eto yn dod at ei gilydd er mwyn nodi Wythnos Dathlu Staff yr Heddlu, gan gydnabod y cyfraniadau gwerthfawr a wnaed gan staff yr heddlu ym mhob maes plismona.
O dan arweiniad cenedlaethol gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (CCPSH), hefo help y Coleg Plismona, mae'r wythnos flynyddol yn taflu goleuni ar sgiliau unigolion sy'n chwarae rhan hanfodol o fewn y teulu plismona.
Trwy gydol yr wythnos, bydd heddluoedd yn tynnu sylw at y rolau amrywiol a gyflawnir gan staff yr heddlu - gan gynnwys ymchwilwyr mannau a lleoedd trosedd, trinwyr galwadau, dadansoddwyr cudd-wybodaeth, staff rheoli troseddwyr, timau cyllid a chaffael, swyddogion dysgu a datblygu, staff recriwtio, gweithwyr proffesiynol AD, timau cyfathrebu, arbenigwyr TG, staff cyfleusterau a llawer mwy.
Y tu ôl i'r llenni, mae yna hefyd yr ymroddiad na fydd y cyhoedd byth yn ei weld – staff sy'n aros yn hwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod ffeil achos yn gywir, sy'n gweithio oriau hir yn ystod digwyddiadau mawr, sy'n rhoi'r gorau i ddiwrnodau gorffwys er mwyn darparu cymorth ychwanegol pan fydd y galw yn uchel, ac sy'n buddsoddi'n barhaus yn eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Mae llawer yn ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol, cymwysterau a chyrsiau arbenigol er mwyn ehangu eu sgiliau nhw, datblygu eu gyrfaoedd nhw a chryfhau'r gwasanaeth a ddarparwn i'n cymunedau ni.
Wrth i blismona barhau esblygu, felly hefyd y cyfleoedd ynddo. O fforensig ddigidol a dadansoddi data i wasanaethau dioddefwyr a chymorth lles, mae staff yr heddlu yn dod â sgiliau arbenigol sy'n hanfodol i blismona modern.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman "Nid ydy'r rôl y mae staff yr heddlu yn ei chwarae ar draws plismona'r DU bob amser yn amlwg, ond mae'n hanfodol ac yn haeddu cael ei ddathlu.
Staff yr heddlu yn aml ydy'r pwynt cyswllt cyntaf i'r cyhoedd – yn ateb galwadau brys a difrys, helpu dioddefwyr a thystion, diogelu carcharorion, rheoli risg, a helpu creu achosion cryf sy'n sicrhau cyfiawnder.
Yma yn Heddlu Gogledd Cymru, mae gynnon ni bron i 1,555 o staff yr heddlu sy'n gweithio ar draws ystod eang o adrannau – o nyrsys yn ein hystafelloedd cadw ni, timau iechyd galwedigaethol a SCCH sy'n cerdded y rhawd, i ymchwilwyr cyfryngau digidol, dadansoddwyr cudd-wybodaeth sy'n nodi bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, ymgynghorwyr cyfreithiol, swyddogion cyllid, arbenigwyr TG a'n timau ystadau, logisteg a fflyd sy'n cadw'r heddlu i redeg yn esmwyth.
Mae'r wythnos hon yn ymwneud â chydnabod y cyfraniad hanfodol hwnnw ac yn tynnu sylw at y ffaith bod staff yr heddlu, yn union fel swyddogion, yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ein cymunedau'n saff a helpu cyfiawnder effeithiol. Mae cymaint o gyfleoedd am yrfa amrywiol a chyffrous ar gael o fewn plismona.
Mae'r rhan fwyaf o'n staff ni wedi gwneud penderfyniad ymwybodol i ymuno hefo plismona oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae eu proffesiynoldeb, eu harbenigedd a'u hymrwymiad yn amhrisiadwy. Mae'n bwysig ein bod ni'n dathlu'r ymroddiad hwnnw, annog pobl eraill ystyried ymuno hefo ni, a pharhau hyrwyddo'r effaith y mae staff yn ei chael fel rhan o'r teulu plismona ehangach.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Blakeman: "Ni allai Heddlu Gogledd Cymru weithredu heb ymroddiad ein staff heddlu ni. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob aelod o staff am y cyfraniad aruthrol maen nhw'n ei wneud wrth helpu cadw Gogledd Cymru yn un o'r lleoedd mwyaf saff i fyw, gweithio ac ymweld ag o."
Dywedodd Elizabeth Mitchell, Ysgrifennydd Cangen UNSAIN / Sarah Stobbart-Jones, Ysgrifennydd Cangen Cynorthwyol:
"Mae staff yr heddlu yn hanfodol i Heddlu Gogledd Cymru. Maen nhw'n dod â gwybodaeth arbenigol, profiad a phroffesiynoldeb i'w rolau bob dydd.
Er bod llawer o'u gwaith nhw'n digwydd y tu ôl i'r llenni, mae eu cyfraniad nhw'n sylfaenol i redeg yr heddlu'n effeithiol. Ar ran UNSAIN, hoffwn i ddiolch i holl staff yr heddlu am eu gwaith caled parhaus nhw a'u hymroddiad nhw i gymunedau Gogledd Cymru.
O archwilio tystiolaeth fforensig a diogelu pobl fregus, i gynnal ein cerbydau ni, rheoli systemau data cymhleth a sicrhau cadernid ariannol, mae staff yr heddlu yn rhan annatod o lwyddiant plismona modern.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa staff yr heddlu ar draws nifer o feysydd proffesiynol. Gan gydweithio hefo swyddogion a gwirfoddolwyr rheng flaen, mae staff yr heddlu yn sicrhau bod yr heddlu yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon i wasanaethu ein cymunedau ni."
Er mwyn darganfod mwy am gyfleoedd ymhlith staff yr heddlu ar hyn o bryd, ewch ar ein tudalen Gyrfaoedd ni: Police staff | North Wales Police