Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwasanaeth newydd ar gael i’r gymuned fyddar a nam ar y clyw er mwyn cysylltu efo Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Enw’r gwasanaeth newydd ydy Convo Now.
Mae’n helpu defnyddwyr BSL gysylltu efo’r heddlu ynglŷn â phroblemau di-frys, gan ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd ar fideo byw.
Mi allwch chi ddefnyddio’r ap neu wefan Convo Now er mwyn cysylltu efo’r heddlu.
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mi wnaiff cyfieithydd ar y pryd BSL hyfforddedig ymuno efo’r fideo a chyfathrebu efo’r heddlu ar eich rhan chi.
Mae’r gwasanaeth ar ben y llinell neges testun sydd ar gael yn barod, lle gellir defnyddwyr siarad efo gweithredwr drwy neges testun ar 18001 101.
Mi allwch chi ddefnyddio Convo er mwyn:
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf, mae’n rhaid i chi gofrestru efo Convo.
Dywedodd Rheolwr Ystafell Reoli Heddlu Gogledd Cymru, David McMahon: “’Da ni eisiau i bobl fyddar a defnyddwyr BSL gysylltu efo ni’n hawdd a hyderus pan maen nhw angen help.
“Mae Convo yn rhoi gwell mynediad i bobl i’n gwasanaeth heddlu ni pan nad oes argyfwng.
“’Da ni’n ymroddgar i helpu pobl fyddar a phobl efo nam ar y clyw yn ein cymuned ni.
“Mae’r gwasanaeth hwn yn gam tuag at feithrin cynhwysiant pellach a gwneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf saff i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU.”
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Fel CHTh, dwi’n credu dylai pawb fedru cysylltu efo’r heddlu gyda hyder, ac mae mentrau fel hon yn helpu chwalu rhwystrau cyfathrebu a chadw pobl yn saff.
“Drwy wella hygyrchedd, ‘da ni’n cryfhau ymddiriedaeth, sicrhau tegwch, ac yn sicrhau bod pawb yn cael mynediad i’r help maen nhw ei hangen.”
Dywedodd Steph Lotz, Rheolwr Cyffredinol y DU Convo: “’Da ni’n credu dylai pobl fyddar allu ymgysylltu efo gwasanaethau cyhoeddus yn hyderus ac annibynnol, yn enwedig ar adegau pan mae ymddiriedaeth, diogelwch ac eglurdeb yn hynod o bwysig.
“’Da ni’n falch bod yn bartner efo Heddlu Gogledd Cymru er mwyn helpu creu llwybrau mwy uniongyrchol er mwyn i ddefnyddwyr byddar Iaith Arwyddion Prydain gysylltu gyda mwy o hyder a hwyluster.”
Er mwyn cofrestru am ddim:
Yn y dyfodol, ‘da ni’n gobeithio defnyddio Convo mewn ychwaneg o ffyrdd er mwyn helpu pobl fyddar.
Mi wnaiff hyn gynnwys:
Mi wnawn ni eich diweddaru chi pan mae’r gwasanaethau ychwanegol hyn ar gael.
Mewn argyfwng, mi all pobl fyddar ddefnyddio’r gwasanaeth 999 BSL o hyd.