Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn 31 oed wedi cael ei garcharu ar ôl i dros £13,000 o gyffuriau gael eu darganfod yn ei gar a'i gynhwysydd storio.
Ymddangosodd Ricky James Pritchard, o Faes Llwyn, Amlwch, yn Llys y Goron Caernarfon ar 23 Ionawr ar ôl cyfaddef o'r blaenorol ei fod hefo cyffuriau yn ei feddiant hefo'r bwriad o gyflenwi sylweddau Dosbarth A a B a chaffael eiddo troseddol.
Ar 27 Rhagfyr, stopiodd swyddogion gar oedd yn cael ei yrru gan Pritchard ger Stad Ddiwydiannol Amlwch.
Ar ôl chwilio ei gar, darganfu swyddogion swm sylweddol o gocên a resin canabis.
Cynhaliwyd chwiliadau pellach mewn cynhwysydd storio sy'n perthyn i Pritchard a arweiniodd at ddarganfod swm mawr o arian parod, cocên, nifer o dabledi ac eitemau eraill sy'n awgrymu cyflenwad cyffuriau.
Yn gyffredinol, amcangyfrifwyd bod gan y cyffuriau a atafaelwyd werth stryd o tua £13,600.
Cafodd ei garcharu am flwyddyn a phedwar mis.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis: "'Da ni'n parhau i gyflawni ein hymrwymiad i dargedu'r rhai sy'n ceisio dod â chyffuriau i Ynys Môn.
"Mae mynd ati i stopio a chwilio am unigolion yn un ffordd 'da ni'n targedu cyflenwi cyffuriau ar yr ynys er mwyn gwarchod aelodau bregus o'r gymuned.
"Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon ynglŷn â chyflenwi cyffuriau yn eich ardal chi, gallwch chi wneud adroddiad dienw trwy Crimestoppers."