Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe wnaeth swyddogion heddlu yng Ngogledd Cymru stopio bron i 50 o yrwyr fel rhan o ymdrech barhaus i wella diogelwch ar rai o ffyrdd prysuraf y rhanbarth.
Cymerodd swyddogion o'r Uned Troseddau Ffyrdd ran yn Ymgyrch Tramline, menter plismona ffyrdd cenedlaethol sy'n defnyddio cerbyd nwyddau trwm heb ei farcio wedi ei ddarparu gan Briffyrdd Cenedlaethol. Mae'r uned HGV arbenigol yn cael ei defnyddio gan heddluoedd ledled y DU i batrolio rhwydweithiau ffyrdd allweddol, gan dargedu pob modurwr, gan gynnwys gyrwyr cerbydau masnachol.
Mae safle uchel y cab HGV yn rhoi golwg glir i swyddogion hyfforddedig o gerbydau sy'n pasio, gan ganiatáu iddynt ganfod ymddygiad gyrru peryglus. Mae troseddau yn cael eu dal ar gamera mewn amser real a'u trosglwyddo i gydweithwyr mewn cerbydau heddlu wedi'u marcio a heb eu marcio. Yna, maent yn stopio'r gyrwyr ac yn delio â'r troseddau fel bo'r galw.
Dywedodd Rhingyll Danny Rees o'r Uned Troseddau Ffyrdd: "Nododd swyddogion ychydig o dan 50 o droseddau yn ystod eu patrolau gan gynnwys defnyddio ffôn symudol, methu â gwisgo gwregys diogelwch, llwythi ansicr a gyrru heb ofal a sylw dyledus - i enwi ond ychydig. Gwelwyd unigolyn gydag un droed ar y dangosfwrdd, yn gwylio ffilm ar eu ffôn a wyrodd o flaen yr HGV heb ei farcio.
Mae cadw ein ffyrdd yn ddiogel yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru, ac mae nifer y troseddau a nodwyd yn dangos pam mae gweithrediadau rhagweithiol fel hyn mor bwysig.
"Mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru a pheidio â gwisgo gwregys diogelwch ill dau yn rhan o'r '5 angheuol' - prif achosion gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol ar ein ffyrdd. Siom oedd gweld bod y rhain ymhlith y troseddau mwyaf cyffredin a ganfuwyd. Mae dewis cyflawni un o'r troseddau 5 angheuol yn rhoi nid yn unig y gyrrwr mewn perygl, ond hefyd defnyddwyr eraill y ffordd.
"Nid dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio'r Ymgyrch Tramline HGV, ac nid hwn fydd yr olaf. Rydym yn ddiolchgar i Briffyrdd Cenedlaethol am eu cefnogaeth barhaus wrth ddarparu'r cerbyd. Bydd gweithrediadau fel hyn yn parhau i dargedu'r rhai sy'n rhoi eraill mewn perygl trwy yrru'n beryglus. Cymerwch hyn fel rhybudd a meddyliwch yn ofalus am eich gweithredoedd y tu ôl i'r llyw."
Yn ystod yr ymgyrch, cofnodwyd cyfanswm o 49 o droseddau, gan gynnwys:
Nodiadau:
Mae rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Tramline ar gael ar wefan y Priffyrdd Cenedlaethol: Tackling dangerous driving behaviour - National Highways