Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cynllun rhanbarthol newydd er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi dechrau gan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddangos ymrwymiad yr heddlu i ddiogelwch cymunedol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Fe all ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith ddwys ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae'n tanseilio teimladau pobl o ddiogelwch, yn niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd ac yn lleihau ansawdd bywyd ar draws ein cymdogaethau.
"Er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn deall bod angen partneriaethau cryf ac effeithiol. Er fy mod wedi buddsoddi'n fawr mewn plismona cymdogaethau, ond drwy gydweithio, rhannu gwybodaeth a chydlynu ymyraethau allwn ni wir gyflawni gwasanaeth ystyrlon ar gyfer cyhoedd Gogledd Cymru.
"Mae achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gymhleth. Ni all ein pwyslais fod ar orfodaeth yn unig ac fe geisiwn atal ac ymgysylltu o hyd. Rwyf yn cydnabod bod ymyrraeth gynnar, addysg a phob ffurf arall o gymorth yn hanfodol mewn ymdrin â'r problemau craidd a chydweithredu'n agos gyda'n cymunedau, er mwyn cyflawni gwelliannau cynaliadwy a thymor hir.
"Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo gwarchod ein cymunedau. Fe fyddwn yn amlwg o fewn y cymunedau hynny. Fe fyddwn bob tro'n ymdrechu bodloni anghenion ein preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, efo'r nod o wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld."
Yn ymrwymo’r heddlu i sicrhau bod Tîm Plismona Cymdogaethau amlwg ym mhob ardal leol, sy’n gallu ymateb i bobl sy’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mi fydd yr heddlu hefyd yn cyhoeddi enw swyddog a'u manylion cyswllt ar gyfer pob cymdogaeth, a chynnig proses er mwyn i bobl allu cysylltu â thimau yn uniongyrchol gydag unrhyw bryderon.
Mae gan nifer o awdurdodau lleol rolau a chyfrifoldebau er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mi wnaiff gwaith partneriaeth efo cynghorau, darparwyr cartrefi a phartneriaid iechyd sicrhau ymdriniaeth gyfunol a chyson ar draws y rhanbarth.
Mae Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn rhan allweddol o gynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer brwydro â throseddu ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Dwi’n croesawu dechrau’r Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd hwn. Mae ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i gymunedau ledled Gogledd Cymru, ac mae’n llunio rhan allweddol yn fy Nghynllun ar gyfer trechu trosedd ar draws y rhanbarth. Mae effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ddioddefwyr, cymunedau a busnesau yn wirioneddol ac yn barhaol, ac mae gan bobl hawl disgwyl bod partneriaid yn cydweithio er mwyn ymateb iddo’n effeithiol.
“Mae’r cynllun yn gosod ymrwymiad eglur ac ymarferol i amlygrwydd, ymyrraeth gynnar a gwaith partneriaeth cryf. Mae’r rhain yn egwyddorion dwi, fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd, yn eu cefnogi’n llawn. Drwy sicrhau bod pob cymuned efo mynediad at bresenoldeb plismona penodol gellir eu cysylltu’n rhwydd, ac wrth gryfhau cysylltiadau rhwng plismona, cynghorau, darparwyr cartrefi a phartneriaid eraill, mi allwn ni helpu sicrhau gwasanaeth mwy unedig ac effeithiol ar gyfer y cyhoedd.
“Fel CHTh, mi wnaf i barhau eirioli ataliaeth, ymgysylltiad a chydweithrediad, er mwyn i bobl deimlo’n saffach, efo hyder mewn riportio pryderon, a gweld camau ystyrlon yn cael eu cymryd yn eu hardal nhw.”
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a lle i’w riportio yma: Ymddygiad gwrthgymdeithasol | Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd yn rhan o ymrwymiad yr heddlu i’r fframwaith Gwarant Plismona Cymdogaethau.
1,890KB