Stamp amser presennol: 06/08/2026 01:18:51
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

#GwarchodParchuMwynhau – Ymgyrch Bang 2025

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 09:00 18/10/2025 Diweddarwyd: 09:00 18/10/2025

Hefo Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn prysur agosáu, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio'n agos hefo partneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn helpu pawb fwynhau'r dathliadau yn saff ac yn gyfrifol.

Er bod yr adeg hon o'r flwyddyn yn uchafbwynt i lawer, gall hefyd ddod â heriau. Bob blwyddyn, mae'r gwasanaethau brys yn gweld cynnydd mewn galwadau sy'n gysylltiedig hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dyna pam 'da ni'n gofyn i rieni a gofalwyr siarad hefo'u plant am ddathlu'n synhwyrol a meddwl am effaith yr hyn maen nhw'n ei wneud. Gall yr hyn a allai ymddangos fel hwyl ddiniwed achosi gofid go iawn i bobl eraill a gallai gael canlyniadau parhaol.

Fel rhan o Ymgyrch Bang, mae swyddogion o Dimau Plismona Cymdogaethau ar draws Gogledd Cymru eisoes wedi bod yn sgwrsio hefo pobl ifanc mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid. Mae cyllid gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) yn helpu ystod o weithgareddau.  Mae'r ymgyrch hefyd yn hyrwyddo negeseuon diogelwch a pharch allweddol, gan atgoffa pawb na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef.

Mae siopau hefyd yn cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant sydd ar eu pen eu hunain wrth i Galan Gaeaf nesáu.

Dywedodd Arolygydd Claire McGrady: "Dylai Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn ymwneud â hwyl, nid ofn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dathlu gan ystyried pobl eraill. Ond yn anffodus mae lleiafrif bach yn defnyddio'r dathliadau fel esgus i achosi aflonyddwch a throseddu. 'Da ni'n gofyn i bawb feddwl cyn gweithredu, parchu eu cymdogion nhw, a'n helpu ni wneud yn siŵr bod Gogledd Cymru yn parhau bod yn lle saff a chroesawgar i bawb.

Bydd ein swyddogion a'n partneriaid ni allan ledled y rhanbarth yn cynnig sicrwydd, yn sgwrsio hefo cymunedau, a gweithredu lle bo angen. Hefo'n gilydd mi fedrwn ni warchod, parchu a mwynhau'r adeg hon o'r flwyddyn."

Er mwyn helpu lleihau'r galw am wasanaethau brys yn ystod y cyfnod prysur hwn, 'da ni'n gofyn i'r cyhoedd wneud yn siŵr eu bod nhw'n cysylltu hefo'r asiantaeth iawn yn y ffordd iawn:

  • Am bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ddiogelwch y cyhoedd, cysylltwch hefo'r heddlu. Defnyddiwch ein gwefan ni ar gyfer achosion sydd ddim yn argyfwng – Hafan | Heddlu Gogledd Cymru
  • Dylid rhoi gwybod i'r awdurdod lleol am broblemau ynghylch sŵn a gwerthu tân gwyllt a thaflu sbwriel/tipio anghyfreithlon. Ein partneriaid | Heddlu Gogledd Cymru

'Da ni hefyd wedi creu posteri ar gyfer preswylwyr sy'n well ganddyn nhw beidio â chael rhai'n galw'n chwarae cast neu geiniog. Gellir lawrlwytho'r rhain o'n gwefan ni a'u hargraffu nhw ar eich cyfer chi'ch hun, perthnasau oedrannus neu gymdogion. Parchwch unrhyw aelwyd sy'n arddangos un o'r posteri hyn.

Cyfarchion gan Heddlu Gogledd Cymru – gobeithio cewch Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt saff a dymunol a gofalwch am eich gilydd.

Mae rhagor o wybodaeth am PACT ar gael ar: Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae eich tîm plismona lleol yn ei wneud dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt trwy ddilyn yr hashnod #YmBang25

Callers Welcome Poster.pdf

No Callers Poster.pdf

A4 Egg Poster.pdf

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026​. Cedwir pob hawl.