Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Mae dynes 34 oed a ymosododd ar ddyn hefo potel wydr wedi torri wedi cael ei charcharu.
Fe wnaeth Cassie Evans, o Ffordd Ddyfrllyd, Wrecsam daro'r dioddefwr yn ei wddf hefo'r darn o wydr yn dilyn ymosodiad digymell.
Digwyddodd y digwyddiad ar Stryt yr Arglwydd, Wrecsam toc ar ôl 7pm, ar 18 Awst.
Cafodd y dioddefwr ei gludo i'r ysbyty lle derbyniodd driniaeth am ei anafiadau.
Cyfaddefodd Evans gyhuddiadau o anafu'n fwriadol a meddu ar arf ymosodol. Yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, ar ddydd Llun 3 Tachwedd, cafodd ei charcharu am ddwy flynedd a naw mis.
Cafodd hefyd orchymyn atal am bum mlynedd er mwyn gwarchod y dioddefwr.
Dywedodd Ann Parry ymchwilydd sifil hefo Heddlu Gogledd Cymru: "Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus ac annymunol a ddigwyddodd mewn man cyhoeddus, a allai fod wedi arwain at farwolaeth y dioddefwr.
"Nid oes lle i drais o'r fath ar ein strydoedd ni, ac fe wnaethon ni weithredu'n gyflym i arestio Evans a chasglu'r arf o dan sylw.
"'Da ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i gadw ein cymunedau'n saff a byddwn ni'n parhau i weithio'n ddiflino er mwyn atal digwyddiadau fel hyn."