Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi’u carcharu ar ôl cael eu dal yn cyflenwi cyffuriau ar Ynys Môn.
Mi ymddangosodd Tom Brabbins, 32 oed, o Brodie Avenue, Cressington, Lerpwl a Jamie Weston, o Barbrook Avenue, Lerpwl yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Llun, 17 Mawrth, lle wnaethon nhw gyfaddef ymwneud â chyflenwi cocên.
Rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Chwefror 2025, mi deithiodd Brabbins a Weston o Lannau Mersi i Ogledd Cymru er mwyn gwerthu cyffuriau Dosbarth A.
Mi wnaethon nhw ddefnyddio ffôn symudol er mwyn anfon neges swmp i ddefnyddwyr cyffuriau hysbys, yn cynnig eu cyflenwi efo cocên.
Mi gyflawnodd swyddogion warant mewn cyfeiriad yn Amlwch ar 10 Chwefror, ac o ganlyniad mi arestiwyd y ddau ddyn o Lerpwl.
Mi gafodd Brabbins ei garcharu am bedair blynedd, ac mi gafodd Weston ei garcharu am dair blynedd a naw mis.
Mi dderbyniodd Weston hefyd Orchymyn Ymddygiad Troseddol sy’n para tair blynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar, sy’n ei atal rhag ymweld ag Ynys Môn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Arron Hughes: “Ni wnawn ni oddef y rhai sy’n dod â chyffuriau i Ynys Môn, er mwyn tarfu ar unigolion bregus ac achosi niwed i’r gymunedau.
“Mi fuaswn i’n annog unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn â chyffuriau yn eu hardal i riportio’u pryderon nhw i’r heddlu, neu’n ddienw drwy Crimestoppers.”