Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn a gafodd eu dal yn delio cyffuriau dosbarth A yn ardal Llandudno wedi cael eu carcharu.
Ymddangosodd Liam Coleman, 25, o Lôn Cymru, Llandudno, a Daniel Thompson, 27 oed sydd heb gartref sefydlog, yn Llys y Goron Caernarfon ar ddydd Llun 9 Mehefin, ar ôl cyfaddef eu bod yn ymwneud â chyflenwi canabis a chocên.
Cafodd Thompson ei arestio ym Mae Colwyn gan swyddogion ym mis Mawrth 2022 mewn cysylltiad â materion nad ydynt yn gysylltiedig â'r achos hwn pan ddarganfu swyddogion bod ganddo ganabis a chocên yn ei feddiant.
Roedd ganddo hefyd ddau ffôn a atafaelwyd.
Roedd y ffonau yn perthyn i Coleman a Thompson ac yn cynnwys manylion negeseuon yn ymwneud â delio cyffuriau rhwng 2019 a 2022.
Tra bod ymchwiliadau'n mynd yn eu blaen, cadwodd y ddau mewn cysylltiad a dechrau delio cocên yn 2024.
Ym mis Ebrill 2025, aeth swyddogion i gyfeiriad yn Llandudno a neidiodd Coleman allan o ffenestr a rhedeg i ffwrdd oddi wrthynt. Wrth chwilio drwy'r tŷ darganfuwyd rhagor o gyffuriau dosbarth A a B.
Cafodd Coleman ei ganfod a'i arestio y diwrnod canlynol.
Cafodd Coleman ei garcharu am bedair blynedd a thri mis a chafodd Thompson ei garcharu am dair blynedd a 10 mis.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Mathew Kelly-Smith: "Nid oes goddefgarwch i'r rhai sy'n ceisio achosi niwed i bobl bregus yn ein cymunedau.
"Parhaodd Coleman a Thompson â'u delio hyd yn oed tra eu bod yn cael eu hymchwilio gan yr heddlu, gan achosi rhagor o ofid i'r rhai yr oeddent yn eu hecsbloetio.
"Gofynnwn i bobl roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am gyffuriau yn eu hardal, a byddwn yn gweithredu ar adroddiadau a dderbynnir a byddwn yn gweithio'n ddiflino i dynnu cyffuriau dosbarth A oddi ar strydoedd Gogledd Cymru."
Dylai unrhyw un sydd â phryderon am gyffuriau yn yr ardal gysylltu â'r heddlu trwy ein gwefan, trwy ffonio 101, neu gysylltu yn ddienw trwy Crimestoppers.