Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
O ran cam-drin rhywiol a thrais rhywiol, yn syml #DioDdimYnIawn i hyn ddigwydd.
Yn Heddlu Gogledd Cymru, ‘da ni’n cefnogi Wythnos Genedlaethol Cam-Drin Rhywiol a Thrais Rhywiol – menter wnaeth ddechrau yn 2016 sydd efo’r nod o godi ymwybyddiaeth am gam-drin a thrais rhywiol, a rhoi cyfle i unrhyw sefydliad neu unigolyn gymryd rhan mewn sgwrs. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr meddygol proffesiynol, gwasanaethau iechyd meddwl ac elusennau, ymhlith eraill.
Eleni, mi fydd yr wythnos yn cael ei gynnal o ddydd Llun 3 Chwefror hyd at dydd Sul, 9 Chwefror.
Wrth nodi dechrau’r wythnos ymwybyddiaeth, dywedodd xxx o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae treisio a cham-drin rhywiol yn droseddau erchyll sy’n cael effaith ddwys a pharhaus ar ddioddefwyr ac nid oes lle i’r troseddau hyn mewn cymdeithas.
“’Da ni’n cydnabod gallai’r troseddau hyn fod yn anodd iawn siarad amdanyn nhw, ond ddylai unrhyw un sy’n cael eu heffeithio wybod bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd pob cwyn am dreisio a throseddau rhywiol o ddifri ac mi fyddan nhw’n trin dioddefwyr â pharch ac urddas.
“Os ‘da chi’n ddioddefwr, mae gynnon ni sawl opsiwn, gan gynnwys offeryn riportio penodol ar ein gwefan ni. Mae gynnon ni hefyd dîm wedi’i neilltuo’n benodol er mwyn ymchwilio i dreisio a throseddau rhywiol difrifol, yn gweithio ar atal y troseddau erchyll hyn, yn ogystal â’u hymchwilio nhw.
“’Da ni’n cymryd pob hysbysiad o dreisio a throseddau rhywiol eraill yn wirioneddol o ddifri ac mi fyddwn ni’n ymchwilio i bob achos yn sensitif, yn drylwyr ac er mwyn sicrhau bod y dioddefwr/goroeswr yn teimlo’u bod yn cael help drwy’r amser a phan fyddan nhw’n teimlo’n barod i wneud hynny.”
Riportio a chefnogi
Os ‘da chi neu rywun ‘da chi’n eu hadnabod wedi dioddef treisio neu droseddau rhywiol eraill, ‘da ni’n eich annog i beidio â dioddef yn dawel a’i riportio i’r heddlu drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.
Gallwch hefyd riportio gwybodaeth neu droseddau i ni ar ein gwefan ni Cysylltu â ni | Heddlu Gogledd Cymru. Fel arall, gallwch chi gysylltu efo’r elusen annibynnol, Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mae Amethyst yn Ganolfan Cyfeirio Ymosodiad Rhywiol Annibynnol (Sexual Assault Referral Centre – SARC) ar gyfer Gogledd Cymru, lle mae ystod eang o weithwyr proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn darparu help a gwybodaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o dreisio neu ymosodiad rhywiol yng ngogledd Cymru. Mae’r ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth efo’r heddlu, y sector iechyd a gwasanaethau gwirfoddol y trydydd sector, er mwyn sicrhau bod dioddefwyr y troseddau hyn yn derbyn y gofal orau posib.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth, ewch ar: Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol – Amethyst – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu ffoniwch 0808 156 3658.
Mae nifer o sefydliadau ac asiantaethau cymorth arbenigol ar gael gallai helpu a darparu cefnogaeth i chi. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â threisio ac ymosodiad rhywiol difrifol a’r cymorth sydd ar gael, ewch ar:
Cefnogaeth ar ôl treisio ac ymosodiad rhywiol | Heddlu Gogledd Cymru
Mi allai defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnod #DioDdimYnIawn