Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedwar dyn o Orllewin Canolbarth Lloegr wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o fwy na 17 mlynedd ar ôl cyflawni byrgleriaeth waethygedig ym Mae Colwyn.
Yn ystod oriau mân 27 Awst y llynedd, gorfododd pedwar dyn eu ffordd i mewn i dŷ ar ôl teithio o ardal Wolverhampton, gan fygwth y preswylwyr ag arfau. Ymosodwyd ar un ohonynt yn ddifrifol iawn.
Ymatebodd swyddogion yn gyflym i'r digwyddiad ac roeddent yn gallu amgylchynu a dod o hyd i'r dynion yn fuan ar ôl i'r alwad gael ei gwneud i'r heddlu.
Plediodd dau o'r pedwar yn euog i fyrgleriaeth waethygol tra plediodd y ddau arall yn euog i fyrgleriaeth.
Bu Helen Thorneycroft, Ymchwilydd Sifilaidd CID yn cefnogi'r dioddefwyr drwy gydol y cyfnod a llwyddodd i sicrhau euogfarnau yn seiliedig ar dystiolaeth gref.
Heddiw yn Llys y Goron Caernarfon, dedfrydwyd Shan Ullah (28) o New Hampton Road East, Wolverhampton i ddwy flynedd am fyrgleriaeth, carcharwyd Sina Soran (19) o Glaisdale Gardens, Wolverhampton am un mis ar bymtheg hefyd am fyrgleriaeth. Dedfrydwyd Muneeb Habib (26) o Dunston Hill Wolverhampton i 6 mlynedd 9 mis am fyrgleriaeth waethygedig, a charcharwyd Mohammed Khan 31 oed o Jameson Street Wolverhampton am 7 mlynedd a 6 mis am fyrgleriaeth waethygedig.
Wrth siarad ar ôl dedfrydu, dywedodd y Ditectif Arolygydd Kris Williams: "Roedd hwn yn ymosodiad llwfr a thrychinebus ar y dioddefwyr wrth iddyn nhw gysgu.
"Sicrhaodd gweithredu cyflym ac ymateb ar y cyd bod y troseddwyr wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell.
"Rwy'n croesawu'r ddedfryd heddiw, a dylai hyn fod yn rhybudd i droseddwyr o'r tu allan i'r ardal sy'n bwriadu achosi niwed i bobl Gorllewin Conwy na fyddwn yn goddef unrhyw weithgaredd troseddol sy'n effeithio ar ein cymuned."