Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion o Uned Troseddau’r Ffyrdd yn atgoffa modurwyr i sicrhau cyflwr eu teiars yn rheolaidd ar ôl iddynt weld cynnydd yn y nifer o fodurwyr yn cael eu stopio hefo teiars diffygiol.
Dros y pythefnos diwethaf mae sawl tocyn cosb wedi cael eu rhoi i fodurwyr a oedd wedi cael eu darganfod hefo teiars peryglus ar eu cerbydau.
Meddai PC Lauren Hares o Uned Troseddau’r Ffyrdd: “Mae sicrhau bod eich teiars yn gyfreithlon yn bwysig, ond nid yn unig hynny mae hefyd yn allweddol i’ch diogelu ar y ffyrdd. Wrth i benwythnos y Pasg agosáu a chyn i nifer deithio ar y ffyrdd i fynd ar eu gwyliau neu i ymweld â’u teuluoedd, mae’n bwysig cofio checio cyflwr eich teiars.
“Fel gyrrwr, eich cyfrifoldeb chi ydi sicrhau fod y cerbyd yr ydych yn ei ddefnyddio yn gyfreithlon cyn mynd ar eich siwrne. Yr unig beth sy’n eich cadw ar y ffordd ydi’ch teiars. Maent wastad mewn cyswllt â’r ffordd – ac os ydynt yn ddiffygiol, gallent gyfrannu at achosi anafiadau angheuol neu ddifrifol i chi a phobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd fawr.
"Mae teiars diffygiol a rhai heb eu llenwi ag aer yn iawn yn broblem sy'n cael effaith ar lywio'r cerbyd, brecio, effeithlonrwydd tanwydd a sadrwydd y cerbyd. Mae'n frawychus pan fyddwch yn gweld cerbydau sydd â theiars heb eu llenwi ag aer yn iawn a chyda teiars peryglus.
"Yn ddelfrydol dylid gwirio teiars unwaith y mis a chyn pob taith hir. Dylai hyn gynnwys gwirio'r pwysedd aer, gwirio cyflwr cyffredinol y teiars a gwirio nad ydynt wedi gwisgo'n fwy na dyfnder o 1.6mm o leiaf. Y ffordd orau o wneud hyn yw edrych ar ddyfnder rhychau'r teiar, sydd wedi cael eu gosod ar 1.6mm. Os yw’r rhain wedi gwisgo nes bod eu bod yn lefel mae'n amser newid y teiars.
“Mae'n werth hefyd gwirio'r teiar a symud unrhyw gerrig mân neu unrhyw beth arall sydd yn glynu wrth y teiar, ac edrych i weld os oes yna unrhyw fochio, lympiau neu doriadau yn y teiar. Bydd unrhyw wendid mewn teiar – megis lympiau, yn golygu risg i’r teiar chwythu tra ar gyflymder uchel a cholli rheolaeth.
Ychwanegodd: “Mae cwmnïau teiars a garej yn aml yn cynnig checio eich teiars am ddim – plîs checiwch hefo’ch garej leol a fydd yn fwy na hapus i’ch helpu chi.”
Gall teiar ddiffygiol arwain at uchafswm o £2,500 a thri pwynt cosb (fesul teiar).
Cewch fwy o wybodaeth am wirio eich teiars drwy ymweld â: Promoting UK Tyre, Driver and Road Safety | TyreSafe
Mae esiamplau o rhai o'r teiars diffygiol isod:


