Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd ym Mangor brynhawn ddoe (dydd Mawrth, 29 Ebrill).
Toc cyn 1pm, mi dderbyniodd yr heddlu adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gar a fan yn union y tu allan i'r Orsaf Ambiwlans ar Ffordd Glan y Môr. Mi 'roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â cherbydau Toyota Yaris a Vauxhall Vivaro.
Mi aeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i leoliad y gwrthdrawiad.
Mi gafodd gyrrwr oedrannus y Toyota Yaris ei gludo i'r ysbyty yn Stoke - ond yn anffodus, bu farw yn ystod oriau mân bore heddiw. Mi gafodd y teithiwr ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Mae hi'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Mi gafodd dwy deithiwr y Vauxhall Vivaro eu cludo i Ysbyty Gwynedd lle maen nhw hyd yma, gydag anafiadau difrifol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o'r Uned Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Difrifol: "Mae ein meddyliau gyda theulu'r dyn ar yr adeg anodd hon.
"Mi hoffem ni ddiolch i bawb sydd eisoes wedi siarad efo ni. 'Da ni'n apelio am dystion neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd Ffordd Glan y Môr ychydig cyn y gwrthdrawiad, ac sydd efallai efo fideo camera cerbyd, i gysylltu efo ni.
"Mi 'roedd y ffordd ar gau am gryn dipyn o amser er mwyn caniatáu i'n Tîm Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymholiadau cychwynnol, ac mi hoffwn ddiolch i'r gymuned leol a'r modurwyr am eu hamynedd."
Dylai unrhyw un efo gwybodaeth gysylltu efo Heddlu Gogledd Cymru drwy'r sgwrs fyw neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000354477.