Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni dal i apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam.
Bu farw Owen Aaran Jones, 19, ac Adam Watkiss-Thomas, 18, yn dilyn gwrthdrawiad yn cynnwys un cerbyd ar Ffordd Wrecsam, New Broughton rhwng lôn Coed Efa a Ffordd Ystrad.
Digwyddodd toc cyn 11pm ar ddydd Gwener, 21 Mawrth ac roedd yn cynnwys beic modur Honda 125cc melyn.
Mae swyddogion yr Uned Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Difrifol yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad, ac nad ydynt eisoes wedi siarad hefo'r heddlu, i gysylltu hefo nhw.
Dywedodd Ditectif Ringyll Katie Davies: "Yn dilyn ymchwiliadau a gynhaliwyd i'r digwyddiad, fe aeth sawl cerbyd a cherddwr heibio man a lle'r gwrthdrawiad ar ôl iddo ddigwydd.
"Dwi'n gofyn i unrhyw un a deithiodd neu a gerddodd ar hyd Ffordd Wrecsam tua 11pm ddydd Gwener, 21 Mawrth, neu ychydig cyn hynny, i gysylltu hefo ni.
"Buaswn i hefyd yn hoffi diolch i bawb sydd eisoes wedi dod ymlaen er mwyn helpu hefo'n hymholiadau ni. Mae eich gwybodaeth wedi bod yn amhrisiadwy."
"Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a allai helpu hefo'r ymchwiliad parhaus gysylltu hefo swyddogion drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000236736.