Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd beic ei atafaelu, ac fe gafodd dyn ei arestio’n dilyn digwyddiad yn Nhywyn, Abergele neithiwr (nos Iau, 28 Tachwedd).
Toc ar ôl 10 o’r gloch fe fethodd nifer o feiciau trydan, oedd yn teithio dros 50mya ar lwybr troed ar Ffordd y Foryd, stopio i swyddogion o’r Uned Troseddau Ffyrdd.
Fe wnaeth chwiliadau ddechrau a oedd yn cynnwys hofrennydd o’r NPAS (Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu).
Cafwyd hyd i’r dyn lleol 36 oed yn ddiweddarach gan swyddogion a’i arestio o dan amheuaeth o yrru ar gyffuriau ar ôl profi’n bositif am ganabis a chocên, yfed a gyrru a throseddau gyrru eraill gan gynnwys peidio â stopio. Cafodd ei feic ei atafaelu hefyd.
Hefo’r Nadolig lai na mis i ffwrdd mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog y rhai sy’n ystyried neu sydd eisoes wedi prynu beic neu e-sgwter fel anrhegion i anwyliaid er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y gyfraith a’r rhwymedigaethau i’r rhai sy’n eu defnyddio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol: “Dylai beicwyr beiciau trydan fod yn ymwybodol o, ac yn gwrtais i bawb sy’n defnyddio’r ffordd, llwybrau a rennir, neu fannau cyhoeddus eraill.
“Gall yr heddlu atafaelu MPVs pan maen nhw’n cael eu gyrru’n ddiofal neu’n anystyriol ac yn achosi, neu’n debygol o achosi braw, trallod neu annifyrrwch i aelodau’r cyhoedd.
“Bydd gwrthdrawiadau sy’n arwain at anaf difrifol i rywun arall yn cael eu hymchwilio yn yr un modd ag y byddai petaech yn reidio beic modur neu’n gyrru car, ac efallai y bydd unrhyw bobl a gafodd eu hanafu’n dymuno ceisio cyngor cyfreithiol arbenigol ar wrthdrawiadau ar y ffyrdd.
Fe ychwanegodd: “‘Da ni’n deall bod y mwyafrif o feicwyr modur, e-feiciau a beiciau pedair olwyn yn defnyddio eu cerbydau mewn modd saff ac ystyriol ac yn cadw at y gyfraith. Fodd bynnag, yn anffodus, mae rhai nad ydyn nhw’n gwneud hynny ac mae hyn yn peri risg difrifol nid yn unig iddyn nhw eu hunain, ond i ddefnyddwyr eraill ar y ffyrdd hefyd.
“Ein blaenoriaeth nhw ydy gwneud yn siŵr bod ein ffyrdd a’n mannau agored ni’n saff i bawb – dyna pam y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu yn erbyn unrhyw un sy’n defnyddio’r beiciau neu e-sgwteri yma’n anghyfrifol.
“Byddwn ni’n defnyddio pob teclyn sydd ar gael i ni, sy’n cynnwys adnoddau arbenigol er mwyn mynd i’r afael hefo’r math hwn o drosedd. Hoffwn ni hefyd annog preswylwyr roi gwybod i ni am ddigwyddiadau fel y gallwn ni gymryd camau priodol.
“Os ‘da chi’n gwybod pwy sy’n defnyddio e-feiciau, MPVs neu e-sgwteri yn wrthgymdeithasol neu gyflawni trosedd, rhowch wybod i ni. Riportiwch ar-lein neu ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Beiciau Pedal hefo Cymorth Trydan neu E-feiciau:
Rhaid gosod pedalau ar Feiciau Pedal hefo Cymorth Trydan sy’n gallu eu gyrru, hefo sgôr pŵer parhau uchaf trwy’r modur trydan heb fod fwy na 250 wat, a rhaid i bob cymorth trydanol dorri i ffwrdd pan fydd y cerbyd yn cyrraedd cyflymder o 15.5mya.
Os nad ydy’r beiciwr yn pedlo, dim ond hyd at gyflymder o 6cya (neu 3.7mya) y caniateir sbardunau ‘troelli a mynd.’ Rhaid i’r beic arddangos allbwn pŵer y modur, neu enw’r gwneuthurwr a dangos naill ai foltedd y batri neu gyflymder uchaf.
Os oes amheuaeth, cofiwch PPC – Pedalau, Pŵer, Cyflymder.
Gall unrhyw un 14+ oed reidio rhain yn gyfreithlon. Os ‘da ni’n cydymffurfio hefo Rheoliadau EAPC 1983, maen nhw’n gyfreithlon i’r ffordd a does dim angen trwydded, yswiriant na chofrestriad arnyn nhw. Gallan nhw gael eu reidio ar lwybrau beicio, ac unrhyw le arall mae beiciau pedal yn cael eu caniatáu.
Mae’n fater i’r llys ei benderfynu. Fodd bynnag, mae’r Adran Drafnidiaeth yn ystyried EAPC fel Cerbyd Mecanyddol (MPV).
Cerbydau Mecanyddol
Bydd troseddau’r Ddeddf Traffig Ffyrdd yn cael eu cyflawni pan fo marwolaeth neu anaf difrifol yn cael ei achosi i rywun arall trwy yrru’n beryglus neu’n ddiofal/anystyriol, a gyrru, heb fod hefo gofal MPV, o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Mae gan feiciwr MPV ddyletswydd stopio a rhoi eu manylion yn dilyn gwrthdrawiad lle mae anaf personol yn cael ei achosi i rywun heblaw’r gyrrwr, difrod yn cael ei achosi i gerbyd neu eiddo arall, neu i anifail, heblaw cael ei gludo gan yr MPV. Dylid darparu enw a chyfeiriad y gyrrwr (a’r perchennog os yw’n wahanol) a marciau adnabod y cerbyd i’r unigolyn sydd ei angen. Os nad yw’r gyrrwr yn rhoi ei enw a’I gyfeiriad am unrhyw reswm, rhaid iddo riportio’r gwrthdrawiad i’r heddlu.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Electrically assisted pedal cycles (EAPCs) in Great Britain: information sheet – GOV.UK
Mae pob beic trydan arall yn cael ei ddosbarthu fel beic modur neu foped. Oni bai eu bod yn cael eu defnyddio ar dir preifat (gyda caniatâd perchennog y tir), rhaid i feiciau o’r fath gael eu cofrestru hefo’r DVLA, eu trethu, eu hyswirio a’u defnyddio gan reidiwr sydd hefo’r dosbarth trwydded priodol, er mwyn i’w defnydd fod yn gyfreithlon.
E-sgwteri:
Mae e-sgwteri yn gerbydau modur o dan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, sy’n golygu bod rheolau sy’n berthnasol i gerbydau modur hefyd yn berthnasol i e-sgwteri gan gynnwys yr angen i gael trwydded ac yswiriant.
Nid oes gan e-sgwteri bethau fel platiau rhif, gallu signalau, ac nid ydy’r goleuadau cefn yn weladwy bob amser. Yn aml hefyd nid oes gan feicwyr offer diogelwch priodol. Gall defnyddwyr eraill y ffyrdd fod mewn perygl.
Mae e-sgwteri preifat yn anghyfreithlon i reidio mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ffyrdd, parciau a canol trefi. Dim ond ar dir preifat y gellir eu marchogaeth, hefo caniatâd y tirfeddiannwr. Mae’r llywodraeth yn cynnal treialon sgwteri trydan – nid ydy gogledd Cymru wedi’i gynnwys yn yr ardaloedd prawf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: E-sgwteri | Heddlu Gogledd Cymru