Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu mesurau gwell er mwyn atal trais difrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y rhanbarth.
Dros y 12 mis nesaf, bydd adnoddau patrôl ychwanegol sylweddol yn cael eu neilltuo i ardaloedd sydd hefo mwy o achosion o'r mathau hyn o droseddau.
Wedi'i henwi'n 'Ymgyrch Restore', mae'r ymgyrch well hon wedi'i hwyluso gan gyllid y Swyddfa Gartref fel rhan o'i menter sef 'Ymateb Llecynnau'.
Yn fwyfwy, bydd dros £66 miliwn yn cael ei ddosbarthu ymhlith holl heddluoedd y DU fel rhan o'r cynllun hwn.
Yn unol â maint ardal ei heddlu, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn grant gwerth £1 miliwn sydd â'r nod penodol o ddileu ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol mewn ardaloedd problemus.
Mae cyfanswm o 28 o lecynnau wedi'u nodi ar ôl ymgynghori manwl hefo Arolygwyr Ardal.
Mae patrolau ychwanegol eisoes wedi dechrau mewn llawer o'r ardaloedd hyn ar draws yr heddlu.
Y Prif Arolygydd Matt Geddes ydy arweinydd HGC ar gyfer Ymgyrch Restore ac mae'n gobeithio y bydd cymunedau ledled y rhanbarth yn elwa.
Dywedodd: "Yn ei hanfod, mae amcanion allweddol Ymgyrch Restore yn cyd-fynd yn llawn ag amcanion Heddlu Gogledd Cymru.
"Mae bod yn amlwg ac ymgysylltu hefo'n cymunedau, canolbwyntio ar atal a lleihau troseddu, a darparu gwasanaeth rhagorol i ddioddefwyr i gyd yn ystyriaethau allweddol yn y gwaith gweithredol hwn.
"Mae rhaglenni peilot mewn mannau eraill yn y DU wedi esgor ar ganlyniadau cadarnhaol iawn o ran lleihau lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau treisgar. 'Da ni'n disgwyl i hyn gael effaith yr un mor sylweddol yma yng Ngogledd Cymru.
"'Da ni bellach hefo patrolau gweithredol a help dadansoddol ar waith ar draws ardal yr heddlu.
"Yn y pen draw, bydd llwyddiant Ymgyrch Restore dros y 12 mis nesaf yn dibynnu ar sicrhau bod yr ardaloedd cywir yn cael adnoddau digonol.
"Yn naturiol, byddwn ni'n adolygu'r data troseddau yn barhaus o'r ardaloedd hyn sy'n cael eu targedu ac yn teilwra ein hymateb gweithredol ni yn briodol ac yn gymesur.
"Dylai presenoldeb gwell mewn lifrai yn yr ardaloedd hyn, a fydd yn targedu pob math o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais difrifol yn benodol, arwain at ostyngiad sylweddol mewn troseddau sy'n cael eu cofnodi.
"Bydd y patrolio rhagweithiol amlwg hwn yn cael ei helpu gan rym a dulliau datrys problemau lleol i fynd i'r afael â rhai o'r rhesymau y tu ôl i'r math hwn o droseddu hefo partneriaid.
"Y nod ydy cyflawni newidiadau sy'n mynd i gael effaith fawr hefo canlyniadau tymor hir i gymunedau Gogledd Cymru.
"Fel heddlu, byddwn ni hefyd yn ymdrechu hysbysu pobl Gogledd Cymru am ddiweddariadau rheolaidd ynghylch Ymgyrch Restore ar ein sianeli newyddion allanol ni."