Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon, 'da ni'n dathlu ein Staff Heddlu anhygoel ni a phob dim maen nhw'n ei wneud er mwyn helpu cadw olwynion Heddlu Gogledd Cymru i droi.
Wedi’i lansio gan CCPH (Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu) gyda chefnogaeth gan y Coleg Plismona, mae Wythnos Dathlu a Chydnabod Staff yr Heddlu cyntaf o’i fath yn gobeithio amlygu unigolion sy’n chwarae rhan bwysig o fewn y tîm plismona.
O ymchwilio olion bysedd i reoli’r systemau TG, i drinwyr galwadau a chadw rheolaeth ar gyllid, mae staff yr heddlu yn chwarae rôl annatod yn llwyddiant yr heddlu.
Ian Thompson: Ymchwilydd Fforensig i Wrthdrawiadau
Mae Ian Thompson wedi gweithio fel Ymchwilydd Fforensig i Wrthdrawiadau (YFfW) i Heddlu Gogledd Cymru ers bron i wyth mlynedd.
Cyn ymuno â’r heddlu roedd Ian yn gweithio i Goleg Llandrillo fel Rheolwr Arloesol ond roedd hefyd yn darlithio cynllunio drwy gymorth cyfrifiadur, peirianneg, cynhyrchu a mathemateg.
“Fy mhrif rôl yw mynychu safleoedd lle mae gwrthdrawiadau angheuol a difrifol wedi digwydd a chasglu’r dystiolaeth arbenigol ar gyfer y tîm ymchwilio. Fel YFfW dwi’n rhan o’r broses gyfan – o’r digwyddiad hyd at yr achos llys.
“Dwi’n gweithio cyfuniad o shifftiau gydag oriau lle fyddai ‘ar alwad’, felly mae diwrnod arferol yn cynnwys mynd i’r swyddfa lle fyddai’n gweithio ar adroddiadau arbenigol ar gyfer y gwrthdrawiad dwi wedi bod iddo. Os bydd gwrthdrawiad angheuol neu difrifol yn digwydd tra fyddai ar shifft mi fyddai’n mynd i’r digwyddiad ar oleuadau glas.
“Dwi’n prosesu’r digwyddiad – yn nodi marciau ffisegol, tynnu lluniau, defnyddio’r sganar 3D a chasglu unrhyw dystiolaeth penodol a fydd efallai’n helpu darganfod beth sydd wedi digwydd yn y gwrthdrawiad. Rydym yn sicrhau bod y dystiolaeth orau posib yn cael ei gadw oherwydd os na fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu ar yr adeg honno, mae’r dystiolaeth yn cael ei golli wedi i’r ffordd ail-agor.
“Mae pob gwrthdrawiad yn wahanol. Mae o fel datrys pos ar raddfa fawr. Mae rhan o fy swydd hefyd yn golygu fy mod yn mynychu achosion llys a cwest fel tyst arbenigol.
“Fy mhrif nod yw rhoi atebion a chyfiawnder i deuluoedd sy’n galaru.”
Mae Ian yn gweithio fel rhan o dîm gyda tri ymchwilydd arall, tri o hyfforddeion a dau archwilwyr cerbydau.
Mi fydd Ian yn ymddangos yng nghyfres newydd Y Llinell Las a fydd yn cael ei ddarlledu hwyrach mlaen yn y Gwanwyn.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ystod fawr o gyfleoedd i staff. Gallwch ddilyn gyrfa gyffrous beth bynnag fo’ch dewis o faes. Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion rheng flaen, mae staff yr heddlu yn cadw’r Heddlu i redeg yn esmwyth.
Er mwyn dysgu mwy plis ewch draw i’n tudalen Gyrfaoedd Gyrfaoedd | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Gallwch ddilyn yr ymgyrch ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DathluStaffYrHeddlu a dysgu mwy am waith rhai o’n staff arbennig a’r cyfleoedd sydd ar gael.