Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch Gwasanaeth Gwrthlygredd a Riportio Cam-drin o fewn yr Heddlu sydd wedi cael ei lansio gan yr elusen annibynnol Crimestoppers.
Mae’r gwasanaeth yn darparu llwybr anhysbys a chyfrinachol er mwyn riportio unrhyw bryderon, ar-lein neu drwy linell ffôn benodol, am swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cael eu hamau o lygru neu o gam-drin yn ddifrifol.
Mae’r gwasanaeth ochr yn ochr hefo gweithdrefnau cwynion presennol yn Heddlu Gogledd Cymru er mwyn i’r cyhoedd a staff riportio achosion o lygredd a cham-drin difrifol.
Mae’r Gwasanaeth Gwrthlygredd ac Adrodd am Gam-drin o fewn yr Heddlu yn cwmpasu gwybodaeth sy’n arwain at swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sydd yn:
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, KPM: “Mae’r rhan helaeth o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn ymddwyn yn broffesiynol hefo uniondeb er mwyn cyflawni eu dyletswyddau er mwyn gwarchod y cyhoedd. Mae’n rhaid i ni weithredu’n galed er mwyn cael gwared ar y rhai sy’n gyfrifol am droseddu rŵan ac yn y dyfodol.
“’Da ni ddim yn tanbrisio’r effaith mae digwyddiadau diweddar wedi ei gael ar ymddiriedaeth a hyder mewn plismona, gan gynnwys canfyddiadau ofnadwy adroddiadau Casey ac Angiolini.
“Fel Arweinydd Heddlu Cymru Gyfan dros Drais yn erbyn Merched a Genethod (VAWG) sydd hefyd yn cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), ac fel arweinydd Cymdeithas Merched mewn Plismona Prydain (BAWP), fedrai ddim goddef troseddwyr felly.
“Dwi wedi bod yn glir. Does dim lle i’r rhai hynny sydd ddim yn rhannu ein gwerthoedd a safonau uchel ni yn y sefydliad. Nid yn unig mae’r lleiafrif yn tanseilio’r gwaith ardderchog sy’n digwydd bob dydd, ond maen nhw hefyd yn erydu’r ymddiriedaeth sy’n cael eu rhoi ynddon ni gan ein cymunedau ni.
“Mae’r gwasanaeth newydd yma yn rhoi arf ychwanegol i ni fydd nid yn unig yn ein helpu ni gael gwared ar unigolion ond hefyd ein caniatáu ni weithio hefo ymddiriedaeth a hyder gan y cyhoedd.”
Er mwyn riportio, mi allwch chi gysylltu hefo’r gwasanaeth drwy ffonio 0800 085 000 neu drwy gysylltu hefo Crimestoppers The Police Anti-Corruption and Abuse Reporting Service | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org)
Mae’r cyhoedd yn dal i allu riportio troseddau drwy’r ffyrdd arferol gan gynnwys 101 a gwefan Heddlu Gogledd Cymru, a drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.
Sut mae o’n gweithio?
Bydd Crimestoppers yn derbyn adroddiadau gan y cyhoedd am unigolion sy’n cael eu cyflogi gan unrhyw wasanaeth heddlu yn y DU.
Bydd y wybodaeth yn cael ei basio at uned arbenigol yn yr heddlu penodol hwnnw, megis yr Adran Safonau Proffesiynol neu’r Adran Gwrthlygredd.
Bydd wedyn efallai yn cael ei basio at dditectifs arbenigol er mwyn cychwyn ymchwiliad, cymryd y camau er mwyn ddiogelu rhywun os ydyn nhw mewn perygl, neu’n cofnodi’r wybodaeth er mwyn llywio ymchwiliadau yn y dyfodol.
Pan mae pobl yn cysylltu hefo’r gwasanaeth, mi allen nhw aros yn ddi-enw, neu gael yr opsiwn o roi eu manylion i’r tîm ymchwilio gysylltu â nhw’n uniongyrchol os ydyn nhw’n barod i wneud hynny.