Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eleni mae pen-blwydd Heddlu Gogledd Cymru yn 50 oed a 'da ni'n nodi'r achlysur arbennig hwn hefo sawl dathliad drwy 2024. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni ar 8 Mawrth, 'da ni eisiau amlygu rhai o'r merched anhygoel sydd ac sydd wedi gweithio hefo ni er mwyn tynnu sylw at sut mae plismona wedi newid a datblygu dros y blynyddoedd.
Mae Sarah a Chris Gunning yn fam a merch hefo 63 mlynedd o brofiad plismona rhyngddyn nhw.
Dechreuodd Chris ei gyrfa blismona 44 mlynedd fel Cadét nol yn 1978 cyn ymuno fel swyddog heddlu yn 1979 yn dilyn Deddf Gwahaniaethu Rhyw 1975. Roedd y ddeddf Seneddol hon, a oedd yn gwarchod dynion a merched rhag gwahaniaethu ar sail rhyw neu statws priodasol, yn agor y ffordd i blismona modern 'da ni'n weld heddiw. Pan wnaeth Chris ymuno fel Cwnstabl Heddlu, doedd na ddim swyddogion benywaidd mewn rolau arbenigol. Y rheng uchaf y gallai swyddog benywaidd ei chyrraedd oedd Uwcharolygydd.
Roedd eu lifrai ond yn sgertiau a theits du, hefo bag llaw bach er mwyn dal eu pastynau. Yn ddiweddarach, cafodd swyddogion benywaidd drowsusau, i'w gwisgo yn y nos yn unig. Mae Chris yn dweud fod hyn yn wahanol iawn i'r cyfarpar gwarchod personol mae ei merch Sarah yn ei gael ar gyfer plismona modern.
Yn 1986, fe wnaeth Chris ganfod ei bod yn disgwyl Sarah a heb drefniadau gweithio hyblyg ar gael ar y pryd, fe wnaeth ymddiswyddo o Heddlu Gogledd Cymru er mwyn magu ei theulu hi. Yn 1993 fe wnaeth Chris ddychwelyd i Heddlu Gogledd Cymru dros dro, fel staff cymorth yn trosi adroddiadau papur plant mewn perygl, a oedd yn flaenorol wedi cael eu cadw o fewn swyddfeydd lleol, i system gyfrifiadurol yr heddlu. Mae Chris wedi gweld newid aruthrol dros y blynyddoedd yn y gallu i rannu gwybodaeth nid yn unig o fewn Heddlu Gogledd Cymru ond hefo asiantaethau a heddluoedd eraill.
Yn 1999, fe wnaeth Chris ddechrau ei hail yrfa blismona o fewn y Biwro Olion Bysedd cyn dod yn Ymchwilydd Mannau a Lleoedd Trosedd yn 2004. A hithau'n angerddol iawn am fforenseg, fe wnaeth Chris flodeuo o fewn yr adran a symud i rolau goruchwylio amrywiol gan gynnwys Rheolwr Ansawdd Fforensig yn 2017.
Fe wnaeth Chris ymddeol o Heddlu Gogledd Cymru yn 2022. Mae bellach yn gweithio fel Asesydd Technegol yng Ngwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig er mwyn arolygu heddluoedd yn genedlaethol. Mae'n sicrhau achrediad ansawdd fforensig o fewn ymchwiliadau mannau trosedd.
Dywedodd Chris: "Dwi wedi cael y fraint o weithio hefo pobl wych. Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ffodus o gael swyddogion a staff cymorth mor gryf a brwdfrydig mewn nifer o rolau anhygoel. Mae plismona wedi newid yn llwyr ers pan wnes i ddechrau fel Cadét ifanc. Mae mor galonogol gweld cymaint o uwch swyddogion a rheolwyr staff cymorth sy'n ferched. Felly, fy neges i'r holl ferched sy'n gweithio i'r heddlu ydy iddyn nhw ymfalchïo yn pwy 'da chi a pheidiwch â gadael i neb ddweud na fedrwch chi."
Fe wnaeth merch Chris sef Sarah ymuno hefo Heddlu Gogledd Cymru fel swyddog heddlu yn 19 oed fel swyddog ymateb yn Ninbych. Fe wnaeth weithio ar draws ardal Sir Ddinbych Arfordirol mewn rolau ymateb a Phlismona Cymdogaethau amrywiol cyn pasio ei harholiadau CID a Rhingyll yn 2019.
Daeth Sarah yn Dditectif Gwnstabl gan symud i CID ddechrau 2020. Fe wnaeth hi wedyn symud i'r Uned Gwarchod Pobl Fregus yn 2021, fel Ditectif Gwnstabl o fewn Gwarchod Plant. O fewn y rôl hon, roedd Sarah yn gyfrifol am ymchwilio troseddau difrifol yn erbyn plant. Yn dilyn hyn, cafodd Sarah gyfnod fel Rhingyll dros dro o fewn y tîm Cam-drin Domestig.
Yn 2022, bu Sarah yn llwyddiannus yn ei bwrdd dyrchafiad a daeth yn Rhingyll, gan symud yn ôl i blismona ymateb ym Mae Colwyn ddechrau 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth oruchwylio rota o swyddogion ymateb a rheoli'r plismona gweithredol dyddiol prysur ar gyfer ardal Gorllewin Conwy.
Dechreuodd Sarah rôl dros dro o fewn yr Uned Atgyfeirio Ganolog ym mis Chwefror 2024 lle mae'n gweithio ar hyn o bryd. Mae rôl brysur Sarah yn cynnwys diogelu pobl a phlant bregus, trafodaethau strategol hefo'r Gwasanaethau Cymdeithasol a rhannu atgyfeiriadau hefo asiantaethau partner sy'n gweithio'n agos hefo'r heddlu.
Dywedodd Sarah: "Fel mam sy'n gweithio, dwi'n ddiolchgar am yr help gan Heddlu Gogledd Cymru wrth adael i mi ddilyn fy ngyrfa i. Dw'n sylweddoli nad oedd yr help hwn ar gael ar gyfer fy mam yn ystod ei gyrfa hi fel swyddog heddlu, sy'n dangos pa mor bell 'da ni 'di dod fel sefydliad. Ar ben fy nghyfrifoldebau i, dwi hefyd yn fentor mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth, gan helpu rhieni newydd.
Mae'r sefydliad wedi datblygu cymaint fel bod nifer o gyfleoedd bellach i swyddogion heddlu benywaidd a gwrywaidd symud ymlaen drwy'r rhengoedd a chyflawni eu llawn botensial."
Mae'r gyrfaoedd anhygoel ac amrywiol hyn yn dangos i ni pa mor bell mae plismona wedi datblygu yn y 50 mlynedd diwethaf ers i Heddlu Gogledd Cymru gael ei sefydlu. 'Da ni hefyd yn gweld y cynnydd sydd wedi cael ei wneud er mwyn cynrychioli merched mewn plismona. 'Da ni'n gobeithio, yn enwedig hefo dylanwad ein Prif Gwnstabl benywaidd cyntaf, ein bod ni'n parhau gweld merched yn rhagori o fewn Heddlu Gogledd Cymru am flynyddoedd i ddod.