Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a wnaeth fygwth dynes gyda chyllell cyn dwyn a malu car wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Ryan Moore, 32 o New Hall Road, Rhiwabon yn Llys y Goron yr Wyddgrug (dydd Gwener, 26 Ionawr) lle cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner o garchar yn dilyn digwyddiad ar ddydd Llun, 4 Medi 2023.
Mi wnaeth gyfaddef i wneud bygythiadau gydag arf peryglus, byrgleriaeth a lladrad, dwyn cerbyd mewn modd bygythiol, gyrru tra wedi ei wahardd, bod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant a bod ag arf peryglus yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus ac achosi difrod troseddol. Cyfaddefodd Moore i beidio â stopio ar ôl gwrthdrawiad, methu â darparu sampl ar gyfer dadansoddiad a gyrru heb yswiriant.
Digwyddodd yr ymosodiad yn Southsea, Wrecsam, tua 12.30pm pan aeth cymydog i'r cyfeiriad gan weld Moore gyda chyllell.
Ar ôl mynd at Moore aeth yn fygythiol, gan chwifio'r gyllell. Gadawodd Moore y safle heb esgidiau a dwyn goriadau car o dŷ cyfagos, cyn mynd â'r car a'i yrru i mewn i'r gwrych ym Mrychdyn Newydd a dianc o'r safle. Cafodd ei arestio mewn gardd gyfagos, wedi meddwi ac yn cysgu. Yn ei feddiant roedd canabis a dwrn haearn.
Yn ychwanegol i'r ddedfryd, cafodd Moore ei ddiarddel rhag gyrru am 12 mis a derbyniodd hefyd orchymyn atal yn erbyn y ddynes a fu'n ei bygwth.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio PC Lawes: "Dw i'n croesawu'r ddedfryd a roddwyd gan y llys heddiw yn dilyn y digwyddiad brawychus hwn a ddigwyddodd yn sgil meddwdod.
"Mi fuaswn i'n hoffi sicrhau'r cyhoedd ein bod ni'n canolbwyntio ar wneud ein cymunedau'n llefydd saffach drwy ymdrin yn gadarn hefo'r rhai hynny sy'n tueddu bod yn dreisgar a defnyddio arfau.
"Hefyd, mae byrgleriaethau nid yn unig yn cael effaith andwyol ar unigolion ond hefyd ar y cymunedau lle mae'r troseddau hyn yn cael eu cyflawni. "Mae gwybod bod troseddwyr wedi bod yn eich cartref, lle dylech deimlo fwyaf diogel, ac wedi dwyn eiddo personol yn beth ofnadwy.
Ni wnawn ni oddef yr ymddygiad ffiaidd hwn."