Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharwyd nyrs ardal a wnaeth ymosod ar glaf bregus ac anabl yn ei chartref.
Ymddangosodd Robert Neill o Fronheulog, Bwlchgwyn yn Wrecsam yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Gwener, 5 Ebrill) a’i erlyn am weithgaredd rhywiol ac annog gweithgaredd rhywiol gyda merch ag anhwylder meddyliol.
Cyfaddefodd y dyn 62 oed a oedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod wedi cyflawni’r troseddau a chafodd garchar am 14 mlynedd, yn ogystal â phedair blynedd ar drwydded.
Daliwyd y digwyddiad i gyd ar CCC fis Tachwedd 2022.
Gosodwyd y camera yng nghartref y dioddefwr gan ei theulu yn dilyn pryderon am ei diogelwch.
Pan wnaeth un o'i theulu edrych ar y dystiolaeth camera gwelodd Neill yn ymosod arni'n rhywiol.
Cafodd yr heddlu wybod ac fe'i arestiwyd y diwrnod canlynol, cyn cael ei gyhuddo ym mis Gorffennaf y llynedd.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio, Ditectif Brif Gwnstabl Jane Burns: "Mae hwn yn achos brawychus yn erbyn person bregus ac anabl a gafodd ei niweidio gan Neill yn ei chartref.
"Camddefnyddiodd ei safle gan achosi gofid difrifol iddi a’i theulu, maent yn haeddu canmoliaeth am eu dewrder a'u hurddas drwy gydol yr ymchwiliad.
"Dwi'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn tawelu eu meddyliau gan wybod ei fod yn talu'r pris am ei drosedd cywilyddus."
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r troseddau hyn yn wirioneddol ofnadwy gan weithiwr iechyd.
“Mae'n wir ddrwg gen i am y niwed y mae'r claf a'i theulu wedi dioddef.
"Cyn gynted ag y daethom yn ymwybodol bod aelod o staff wedi cael ei arestio cafodd ei wahardd o'i waith a'i gyfeirio at y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd. Rydym wedi cydweithio yn llwyr gyda'r heddlu ac wedi gweithio gyda nhw ar eu hymchwiliad.
"Mae nyrs mewn safle o ymddiriedaeth a thra bod pethau fel hyn yn brin iawn, rydym wedi adolygu ein prosesau ac wedi gwneud newidiadau. Nawr bod y wybodaeth i gyd ar gael i ni, byddwn yn ystyried a oes unrhyw fesurau eraill y gallwn eu cymryd i helpu atal unrhyw beth fel hyn rhag digwydd eto.
"Byddwn yn parhau i weithio yn agos gyda'r claf a'i theulu ac yn gwneud cymaint â phosib i'w cefnogi.
Ymgyrch Unite yw ein hymateb i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru