Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu un o'r pedwar llanc fu farw'n drasig mewn gwrthdrawiad ffordd a oedd yn cynnwys un cerbyd yn gynharach yr wythnos hon wedi talu teyrnged iddo fo.
Roedd Harvey Owen yn 17 oed ac yn dod o'r Amwythig.
Dywedodd mam Harvey: "Nid oes geiriau o gwbl i ddisgrifio'r boen 'da ni'n teimlo o golli'r enaid mwyaf gwerthfawr. Does dim geiriau i egluro'n iawn faint o unigolyn arbennig oedd Harvey, ond mi wnâi drio fy ngorau.
"O'r diwrnod pan gafodd Harvey ei eni, roedd o'n arbennig. Roedd oedd o'n fabi yr oedd disgwyl mawr amdano fo ac roedd o'n gwneud i mi deimlo mor gyflawn ac yn frawd bach annwyl i Yasmin. Roedd y berthynas rhyngddyn nhw'n rhywbeth y byddai bob rhiant yn ei freuddwydio amdano fo. Roedd o'n addoli ei chwaer fawr ac fe wnaeth o dreulio ei fywyd i gyd hefo meddwl mawr ohoni. Roedd o'n copïo bob dim roedd hi'n ei wneud – roedd ganddo hyd yn oed ffasiwn od ac weithiau amheus a barn ffeministaidd. Tyfodd Harvey hefo'r teulu yn ganolbwynt i'w fywyd. Roedd ganddo ddwy chwaer iau sef Sophia ac Olivia a oedd yn ei addoli o, eu brawd mawr nhw. Nid oedd o fyth yn rhy hen am goflaid.
"Dwi'n gwybod ei bod hi'n swnio fel ystrydeb, ond roedd Harvey'n unigolyn unigryw ac arbennig a wnaeth effeithio ar nifer bobl ar hyd y ffordd.
"Roedd o'n hamddenol, yn garismatig, yn eofn ac yn fachgen a oedd yn perthyn i oes arall. Roedd o'n greadigol ac yn ddoniol. Roedd o'n fachgen oedd yn well ganddo fo fod allan ac yn heini. Roedd o'r enaid mwyaf annwyl, bob amser yn teimlo empathi dros bobl ac yn gweld y daioni ym mhawb. Roedd o'n od, ar flaen y gad o ran ffasiwn, yn annwyl, yn bur a doniol iawn. Roedd o rêl llo ar brydiau, roedd o'n gwylltio rhywun. Ond roedd o mor hoffus fel ei bod hi'n anodd aros yn flin hefo fo am hir!
"Roedd o bob amser yn angerddol os oedd o'n ganddo fo chwilen yn ei ben am rywbeth, boed am ei anifeiliaid anwes, ei feic BMX, sgrialu neu'n fwy diweddar am chwarae'r gitâr, cerddoriaeth jazz, barddoniaeth a chelf. Roedd o wrth ei fodd yn cael sesiynau jamio hefo'i chwiorydd bach, yn chwarae ei gitâr a dawnsio i'w gerddoriaeth. Yn ddiweddar, roedd o wedi datblygu angerdd am weithio hefo bara ac wedi breuddwydio bod hefo'i siop fara a chaffi ei hun.
"Mae gan bawb stori ddoniol i'w dweud am Harvey. Dyma'r straeon hyn sy'n ein cadw ni fynd, yn gwneud i ni chwerthin rhwng y dagrau a bydd hynny'n parhau.
"Nid oes cyfnod i golli plentyn, ond mae hyn yn peri cymaint o ofid gan ei fod yn llawn bywyd a'i fywyd o'i flaen.
"Roedd Harvey yn berffaith pan ddaeth i'r bydd, ac mi fydd yn gadael y byd felly. Ni wnaeth achosi atgasedd erioed. Ni wnaeth niwed ac ni wnaeth gam â neb. Bydd yn fab y byddwn yn ymfalchïo ynddo am byth.
"Mae'r ffaith y bydd Harvey yn 17 oed am byth yn anodd ei amgyffred a hyd yn oed yn anodd ei dderbyn. Gafaelwch yn eich anwyliaid yn dynn. Mae'r holl fân bethau 'da ni'n poeni amdanyn nhw'n amherthnasol. Mae bywyd mor fyr ac yn gallu bod mor greulon.
"Dwi wedi colli fy hogyn i. Yr hogyn roeddwn i'n ei addoli. Fedrai ddim derbyn na fyddai'n gallu gafael ynddo fo eto neu ddweud wrtho fo 'mod i'n ei garu fo."
Mae teuluoedd y llanciau'n cael eu helpu gan swyddogion Cyswllt Teuluoedd yr Heddlu. Maen nhw'n gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu o hyd yn y cyfnod anodd hwn.