Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae grwpiau cymunedol yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i ymgeisio am gyfran o gronfa arbennig o £25,000 a sefydlwyd er mwyn dathlu 25ain mlynedd yr elusen trechu trosedd.
Ers cael ei sefydlu yn 1998, mae Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) wedi rhoi dros £2 miliwn tuag at fentrau lleol ledled y rhanbarth. Yn briodol, mae llawer ohono yn arian a atafaelwyd oddi ar droseddwyr a'i ailgylchu er budd y cyhoedd.
Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda thimau plismona cymdogaethau Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig y rhwydwaith o Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH).
Mae'n canolbwyntio ar ddarparu cyllid i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar gyfer cynlluniau sy'n gwella ansawdd bywyd pobl drwy leihau trosedd ac ofn trosedd.
Mae PACT bellach yn gwahodd cynigion am grantiau hyd at £2,500, gyda'r ffenest am geisiadau yn agor ar 29 Mai. Mae'n agored tan y dyddiad cau terfynol ar 30 Mehefin.
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae prosiectau ym mhob un sir yng Ngogledd Cymru wedi elwa o'r cyllid.
Maent yn cynnwys y gweithdai drama Cyfiawnder mewn Diwrnod arloesol gydag ysgolion ledled y rhanbarth. Maent yn rhoi blas i bobl ifanc o sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio a'r effaith ddinistriol gall trosedd ei gael ar deuluoedd a'r gymuned.
Hefyd, ymysg y rhai a dderbyniodd arian oedd clybiau bocsio ym Mangor, Caernarfon a Llangefni. Roedd tîm pêl fasged cadeiriau olwyn Rhyl Raptors hefyd yn falch iawn o dderbyn y cymorth ariannol tra roedd gwirfoddolwyr Dinbych yn ei Blodau a'r fenter Kind Bay ym Mae Colwyn wrth eu boddau o dderbyn cymorth.
Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae clybiau pêl droed fel CPD Cynhwysol Wrecsam a Hebogiaid o dan 12 Coedpoeth United wedi cael cymorth er mwyn cyflawni eu hamcanion. Yn yr un modd, mae'r academi crefft ymladd Cobra Life yn Shotton wedi derbyn cymorth.
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd PACT: "Roeddem eisiau gwneud rhywbeth arbennig er mwyn nodi'r garreg filltir bwysig hon yn hanes PACT.
"Rydym wedi cynorthwyo neu wedi cyd-ariannu 2,500 o brosiectau yn y 25 mlynedd diwethaf, gan weithio'n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a sefydliadau llawr gwlad ledled y rhanbarth.
"Mae ein llwyddiant yn dystiolaeth o'r holl waith heriol sy'n digwydd yn lleol yn ein cymunedau drwy Ogledd Cymru.
"Oherwydd natur yr hyn a wnawn, mae'n briodol iawn fod cyfran dda o'n cyllid yn dod o enillion twyllodrus troseddwyr a atafaelwyd drwy'r Ddeddf Enillion Trosedd.
"Ni ellir dirnad y manteisio oherwydd nid ydych byth yn gwybod beth all fod wedi digwydd heb gyfraniad PACT. Ond gallwn fod yn hyderus fod cymunedau Gogledd Cymru yn fannau mwy diogel oherwydd yr arian.
"Ddwy flynedd yn ôl, gwnaethom gomisiynu astudiaeth effaith. Roedd y canfyddiadau'n gadarnhaol ran amlaf o lawer, gyda 94% o brosiectau yn adrodd am gysylltiadau cymunedol gwell yn dilyn cymorth gan PACT. Mae 98% o brosiectau yn effeithio'n gadarnhaol ar flaenoriaethau plismona ac mae 92% o ymatebwyr yn credu bod y gymuned ehangach wedi elwa o'r ymyriad roeddent wedi'i gyflawni drwy'r elusen.
"Yn y cyfamser, dywedodd 75% o'r rhai a gyfwelwyd na fyddai eu prosiectau un ai wedi digwydd neu byddant wedi digwydd ar raddfa lai heb PACT.
"Yn gryno, rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae hynny'n destun balchder mawr i bawb sydd ynghlwm wrth PACT.
"Buaswn yn annog grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Gogledd Cymru i ymgeisio am arian o gronfa'r jiwbilî arian fel y gallwn ddechrau'r 25 mlynedd nesaf o drechu trosedd a gwneud Gogledd Cymru'n ardal hyd yn oed yn fwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
Derbyniodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, ei swydd yn yr hydref llynedd ac mae'n gefnogwr mawr o PACT yn barod.
Dywedodd: "Mae PACT yn ffordd hanfodol o allu cynorthwyo ein cymunedau lleol ac ariannu mentrau sydd er daioni yn y cymunedau hynny.
"Mae dal troseddwyr yn rhan bwysig o'n gwaith yn Heddlu Gogledd Cymru. Ond mae atal trosedd rhag digwydd yn y lle cyntaf hefyd yn flaenoriaeth fawr. Mae PACT yn gwneud cyfraniad sylweddol o ran hyn.
"Mae'r ffaith ein bod yn gweithio gyda grwpiau llawr gwlad yn golygu ein bod yn ymateb i ddymuniadau ac anghenion y cymunedau hynny ac o gymorth wrth greu ymddiriedaeth mewn plismona."
"Mae'n gynllun gwych ac mae defnyddio enillion trosedd yn golygu ein bod yn troi arian drwg i rywbeth da. Felly hir y parhaed."
Mae Dave Evans, rheolwr y prosiect, wedi bod yn gweithio gyda PACT ers 2004 ac mae wedi chwarae rôl allweddol yn ei lwyddiant.
Dywedodd: "Tra rydym yn dathlu ein llwyddiannau yn y dyfodol, mae ein llygaid yn canolbwyntio'n bendant ar ddyfodol. Diben y gronfa pen-blwydd sef £25,000 ydy cynnal ein momentwm wrth i ni edrych ymlaen at yr all PACT ei wneud i Ogledd Cymru yn y 25 mlynedd nesaf.
"Mae'r byd wedi newid llawer ers y sefydlwyd PACT gyda dyfodiad y rhyngrwyd, ffonau symudol a gweddill y chwyldro technegol sydd wedi ei gwneud hi'n anoddach creu cymunedau mwy diogel a chynaliadwy. Felly mae mwy o angen yr hyn rydym yn ei wneud.
"Mae llawer o'r prosiectau rydym yn eu cynorthwyo yn gysylltiedig â'r timau plismona cymdogaethau lleol, yn enwedig SCCH, sydd ar y rheng flaen.
"Maent yn rhwydwaith hanfodol o ran cyflwyno grwpiau cymunedol i ni. Maent yn benodol yn cynorthwyo grwpiau sy'n cynorthwyo Heddlu Gogledd Cymru gwneud ein cymunedau'n llefydd gwell i fyw.
“Rydym yn annog sefydliadau cymunedol i ymgeisio am arian ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol, yn enwedig rhai sydd â gweledigaeth tymor hir yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal ac sydd yn gweithio ar y cyd gydag eraill er mwyn atal problemau rhag digwydd.
Rydym yn chwilio am geisiadau sy'n anelu cynorthwyo, annog a chyflawni cymunedau cynaliadwy a chynhwysol ledled Gogledd Cymru."
Ceir ffurflenni cais drwy wefan PACT. www.pactnorthwales.co.uk neu drwy e-bostio [email protected] tra mae'r bobl hynny sydd eisiau trafod eu syniadau yn gallu cysylltu â Dave Evans ar 01745 588516.