Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru heddiw wedi cyhoeddi adolygiad i blismona’r Ddeddf Hela yng Ngogledd Cymru.
Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: “Rwyf yn cydnabod cynnwys yr Adolygiad Hela, a gomisiynwyd yn annibynnol gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd. Rwyf wedi ystyried y canfyddiadau a wnaiff siapio ein hymateb gweithredol wrth symud ymlaen.
“Roedd yn braf sylwi bod y newidiadau gweithredol a wnaed eisoes wedi’u cydnabod a’u hadlewyrchu yn yr adroddiad. Ond rwyf yn cydnabod fod gwaith o hyd i ni ei wneud.
“Fel heddlu, rydym yn cydnabod fod hela yn bwnc sy’n peri safbwyntiau angerddol a chynhyrfiol ar ddwy ochr y ddadl. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr adolygiad a hoffwn eu sicrhau yr ystyrir eu barn wrth i ni barhau i wella ein hymateb ymhellach, yn unol â’r argymhellion.”
Gellir darllen yr adolygiad yn llawn yma: Archwilio plismona'r Ddeddf Hela yng Ngogledd Cymru mewn adolygiad newydd | Office of the Police and Crime Commissioner North Wales (northwales-pcc.gov.uk)