Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dros 150 o bobl eu dal yn gyrru ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau yn ystod ymgyrch a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru adeg y Nadolig.
Gwelodd yr ymgyrch flynyddol yn erbyn yfed a gyrru, a gynhaliwyd o 1 Rhagfyr 2022 hyd at 1 Ionawr 2023, 67 arestiad am yfed a gyrru, a 90 am yrru ar gyffuriau.
Roedd 12 o’r arestiadau wedi cael eu gwneud ar ôl gwrthdrawiad, gyda’r lefel uchaf o alcohol ar ochr y ffordd yn 107. Y terfyn cyfreithiol yw 35.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn cynnal yr ymgyrchoedd hyn er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau. Felly mae’n siomedig iawn bod cymaint o bobl yn parhau i dorri’r gyfraith, er ei fod yn gwbl annerbyniol ac wrth gwrs, yn hynod o beryglus.
“Mae rhai eisoes wedi ymddangos o flaen y llys ac wedi colli eu trwyddedi gyrru, ynghyd â derbyn dirwy. Mae’n bosib iawn y bydd canlyniadau mwy difrifol gyda rhai yn colli eu swyddi. Bydd rhai’n cael eu carcharu hyd yn oed.
“Mae ein timau yn gweithio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a dylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru ar gyffuriau neu yfed a gyrru wybod y byddwn ni allan yno’n disgwyl amdanynt. Byddwn ni’n parhau i weithredu’n llym yn erbyn y rhai sy’n mentro’n ddiangen ac yn eu dwyn ger bron y llysoedd.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Barrasford: “Dwi ddim yn credu bod pobl yn deall peryglon yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn llawn. Mae’n amlwg nad yw’r rhai sy’n mentro’n meddwl am deuluoedd y rhai sydd wedi marw wrth law gyrrwr sydd wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
“Rydym yma er mwyn arbed bywydau. Gall yfed a gyrru neu yrru ar gyffuriau yn aml arwain at ganlyniadau erchyll – rhai mae ein swyddogion yn ei weld yn anffodus. Rydym eisiau i chi fyw a dyna pam yr ydym yn gwneud y swydd yma, ac fe fyddwn yn parhau gyda’n hymdrechion yn 2023 a thu hwnt.”
Mae’r heddlu’n gweithredu yn erbyn pobl sy’n yfed a gyrru neu gymryd cyffuriau bob dydd. Gofynnir i unrhyw un sy’n poeni am rywun y mae’n credu sy’n yfed a gyrru neu’n gyrru ar gyffuriau i gysylltu â’r heddlu ar 101 (neu 999 os yw’n cyflwyno perygl yn y dyfodol agos). Fel arall, cânt gysylltu â Crimestoppers Cymru’n ddienw ar 0800 555 111.
Nodiadau: