Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:59 30/01/2023
Bernir mai defnyddio gwregysau diogelwch mewn cerbydau yw’r datblygiad pwysicaf o bosibl o ran goroesi gwrthdrawiad ar y ffordd.
Mae’r mis hwn yn nodi pedwar degawd o wisgo gwregys diogelwch yn orfodol yn sedd flaen y car, a chafodd y ddeddfwriaeth ei hymestyn i bob teithiwr wyth mlynedd wedyn.
Wrth fyfyrio ar arwyddocâd defnyddio gwregys diogelwch, dywedodd Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: “Gall gwisgo gwregys diogelwch olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Yn anffodus mae’n broblem sydd dal yn amlwg ar ffyrdd Gogledd Cymru. Mae’n siomedig gweld fod pobl yn parhau i ddewis peryglu eu bywydau a bywydau pobl eraill.
“Gwregysau diogelwch yw un o’r nodweddion symlaf a phwysicaf ar gyfer gwarchod modurwyr a’u teithwyr. Mae’n hanfodol fod pawb yn gwisgo gwregys diogelwch, nid y gyrrwr yn unig. Mewn gwrthdrawiad, gall teithwyr sedd ôl heb wregys gael eu taflu ymlaen gyda digon o rym i ladd yr un yn y tu blaen.
“Gall gwrthdrawiadau ddigwydd ar unrhyw adeg. Felly mae’n hanfodol fod pawb yn gwisgo gwregys diogelwch ar bob taith, waeth pa mor fyr yw hi. Gallai tair eiliad fach i wisgo’r gwregys achub eich bywyd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’ch un chi.”
Yn y DU, os yw gwregys diogelwch yn cael ei osod, mae’n ofyniad cyfreithiol i’w wisgo. Gall methu â gwneud arwain at ddirwy o £100 yn y fan a’r lle. Gall gynyddu i hyd at £500 os cewch eich dyfarnu’n euog yn y llys.
Nodiadau: