Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:25 25/01/2023
Bydd gorchymyn gwasgaru yn cael ei roi mewn lle yn ninas Wrecsam heddiw sef dydd Mercher 25 Ionawr oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol diweddar.
Gwnaeth swyddogion dderbyn adroddiadau am lu o ddigwyddiadau gan grŵp rhwng 20 a 30 o ieuenctid a oedd yn crwydro rhwng lleoliadau yng nghanol y ddinas ar ddydd Llun, 23 Ionawr, rhwng 5pm a 10pm.
Roedd digwyddiadau'n cynnwys y grŵp yn ymosod, yn rhoi diffoddwr tân ymlaen, yn taflu arwyddion a cheiniogau at staff siopau ac yn rhedeg ar ôl plant iau.
Roedd hyn yn dilyn sawl adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel yng nghanol y ddinas dros y penwythnos – yn enwedig Stryt y Rhaglaw, Dôl yr Eryrod a Stryt y Brenin.
O ganlyniad, mae'r Arolygydd Luke Hughes wedi awdurdodi gorchymyn gwasgaru o 5pm heddiw (25 Ionawr) tan hanner nos, gan orchuddio'r ardal a amlinellir ar y map.
Mae'r gorchymyn yn rhoi'r grym i swyddogion a SCCH gyfeirio unrhyw un sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol i adael yr ardal a pheidio dychwelyd o dan Adran 34 Deddf Troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014.
Bydd methu â chydymffurfio â'r gorchymyn gwasgaru yn arwain at arestiad.
Dywedodd yr Arolygydd Hughes: "Rwyf am sicrhau pobl Wrecsam ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein dinas yn annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef.
"Rwyf yn benderfynol na ddylai ymddygiad y lleiafrif dynnu sylw oddi wrth yr ymdeimlad cadarnhaol yn Wrecsam bellach.
“Mae Wrecsam yn ffynnu. Mae ymddygiad anghymdeithasol ar i lawr yn sylweddol, a bydd y rhai hynny sy'n achosi'r problemau hyn yn cael eu cosbi yn llym.
"Rwyf yn annog rhieni i sicrhau eich bod yn gwybod lle mae eich plant a'r hyn maent yn ei wneud."