Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio heddiw yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau mewn cymunedau gwledig yng Ngwynedd.
Gwnaeth Uned Troseddau Trefnedig a Difrifol a Thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru weithredu sawl gwarant ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gorllewin Mersia fel rhan o ymgyrch Calafat.
Daw'r ymchwiliad yn dilyn adroddiadau am ladradau peiriannau amaethyddol o werth mawr a beiciau pedair olwyn mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys Tywyn, Dolgellau a'r Bala llynedd.
Targedwyd pedwar eiddo yn Swydd Amwythig a Gorllewin Canolbarth Lloegr heddiw, lle atafaelwyd sawl eitem.
Arestiwyd y tri ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni byrgleriaeth ac maent yn nalfa Llai lle byddant yn cael eu holi gan yr heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Sidney: "Mae'r gwaith hwn yn dangos sut mae heddluoedd yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn chwalu troseddau cefn gwlad. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr o heddluoedd cyfagos sydd wedi'n cynorthwyo ni yn yr ymgyrch hon.
"Nid ond busnesau ydy ffermydd. Maent yn gartrefi i deuluoedd ac mae lladrad amaethyddol ag effaith ariannol fawr ar y rhai hynny sy'n dibynnu ar beiriannau ar gyfer eu bywoliaeth. Mae hefyd yn achosi niwed sylweddol i'n cymunedau cefn gwlad. O ganlyniad, rydym wedi ymroi i ymlid y rhai hynny sy'n cyflawni'r troseddau hyn, o lle bynnag maent yn dod.
"Gall dieithriaid sy'n galw ac yn gofyn am gyfarwyddiadau mewn ardaloedd gwledig fod yn droseddwyr yn asesu lefelau diogelwch ffermydd, yn nodi peiriannau i'w dwyn a sefydlu pa gerbydau byddant eu hangen er mwyn eu cludo i ffwrdd.
"Dylai unrhyw un sy'n amau unrhyw gerbydau anarferol neu amheus wedi parcio gerllaw neu'n teithio yn yr ardal geisio cofnodi rhifau cofrestru a disgrifio cerbydau o'r fath a'n hysbysu ni mor fuan â phosibl.
"Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser - fel arall, ffoniwch ni ar 101, neu cysylltwch drwy'r wefan yma."
Os ydych yn dymuno aros yn anhysbys, gallwch hefyd gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.