Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd pandemig COVID-19 yn gyfnod anarferol a heriol i bawb. Yn fwy felly i'r rhai hynny a oedd yn gweithio yn y gwasanaethau brys. I rai, fe wnaethant fachu ar y cyfle i dderbyn her newydd er mwyn helpu eu cymunedau nhw. Rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2022, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru dros 70 o Swyddogion Gwirfoddol newydd i'r heddlu.
Roedd y prosesau ymuno a hyfforddi ar gyfer y swyddogion heddlu gwirfoddol newydd hyn wrth gwrs yn anarferol oherwydd y cyfyngiadau. Roedd hyn y golygu fod eu seremoni gweinyddu llw neu gwblhau hyfforddiant yn wahanol hefyd.
Mae swyddogion heddlu'n gweinyddu llw ger bron ynad er mwyn cael eu penodi'n ffurfiol i'r swydd. Yn dilyn hyn, maen nhw'n cael eu hanfon ar draws yr heddlu i'w gorsafoedd penodol fel swyddogion heddlu.
Fel arfer, mae ffrindiau a theulu'n cael gwahoddiad i'r digwyddiadau hyn er mwyn gweld eu hanwyliaid yn datgan eu llw a llofnodi'r datganiad. Serch hynny, nid felly oedd hi'n ystod y pandemig. Roedd rhai perthnasau'n gallu gwylio ar-lein, er nid pawb oedd yn gallu gwneud hyn.
Ar 13 Rhagfyr 2023, cafodd y swyddogion hyn sy'n dal i wasanaethau yn yr Heddlu Gwirfoddol y cyfle i "gwblhau hyfforddiant" yn iawn, hefo'u ffrindiau a'u teulu'n bresennol. Er eu bod wedi gwasanaethu ers tro, roedd yn gyfle gwych iddyn nhw brofi'r hyn wnaethon nhw golli allan oherwydd y pandemig.
Roedd y digwyddiad yn cwmpasu dathlu dau swyddog – yr Arolygydd Gwirfoddol James Morris a'r Prif Arolygydd Gwirfoddol Kate Glover-Jones.
Mae'r Arolygydd Gwirfoddol Morris wedi gwasanaethu fel swyddog am bedair blynedd ar ddeg ac wedi derbyn ei ail far hir wasanaeth.
Dywedodd: "Yn ystod fy nghyfnod hefo'r Heddlu Gwirfoddol, dwi wedi cydweithio hefo Timau Plismona Cymdogaethau a swyddogion ymateb yn ardal Sir Ddinbych Arfordirol cyn symud i'm rôl bresennol fel Arolygydd Gwirfoddol yn yr Uned Diogelwch Ffyrdd sy'n cynnwys Swyddogion Gwirfoddol i chi.
"Dwi mor ddiolchgar am yr help dwi wedi'i dderbyn dros y pedair blynedd ar ddeg ddiwethaf. Mae fy nhaith hefo'r Heddlu Gwirfoddol wedi bod yn unigryw. Dwi wedi cyfarfod pobl anhygoel ac wedi cael profiadau anhygoel ar hyd y ffordd."
Mae'r Prif Arolygydd Gwirfoddol Glover-Jones wedi bod yn Swyddog Gwirfoddol am dair blynedd ar ddeg, gan wasanaethu fel swyddog ymateb yn ardal Sir y Fflint.
Fe wnaeth dderbyn ei thystysgrif am hir wasanaeth yn y seremoni a dywedodd: "Dwi'n falch iawn o fod wedi gallu bod yn rhan o'r Heddlu Gwirfoddol am dair blynedd ar ddeg. Buaswn i'n annog unrhyw un sydd hefo diddordeb i ymuno."
Roedd cydnabod ein swyddogion yn brafiach wrth i bum Swyddog Gwirfoddol newydd weinyddu llw. Ers dechrau eu hyfforddiant ym mis Awst 2023, maen nhw wedi bod drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol ac fe gawson nhw eu derbyn fel Swyddogion.
Dywedodd y Prif Swyddog Gwirfoddol Mark Owen: "Ynghyd â dathlu ein Swyddogion Gwirfoddol newydd sbon yn cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol, mae'n bleser gallu diolch i'r rhai hynny ymunodd hefo ni'n ystod cyfnodau mwyaf dyrys y pandemig Covid.
"Mae weithiau'n hawdd anghofio amgylchiadau hynod heriol wnaethon ni weithio ynddyn hwn yn ystod y cyfnod hwnnw. Pan wnaeth y swyddogion hyn ymgeisio er mwyn ymuno, fe wnaethon nhw mewn cyfnod lle roedden ni gyd yn pryderu am ein diogelwch personol ni a diogelwch ein ffrindiau a pherthnasau.
"Yn hytrach nag aros adref, daeth y swyddogion hyn ymlaen ac ymuno hefo'r Heddlu Gwirfoddol. Daeth yn rhan o'n tîm ni wnaeth helpu ein cymunedau ni a gwneud eu rhan er mwyn cadw ein cymunedau'n saff."
Croeso mawr gan bawb yn Heddlu Gogledd Cymru i'n Swyddogion Gwirfoddol newydd ni.
Eisiau bod yn rhan o'n derbyniad nesaf? Cofrestrwch eich diddordeb yma – Special constable | North Wales Police