Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu dathliad er mwyn cydnabod cyfraniadau a llwyddiannau ein Tîm Troseddau Cefn Gwlad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddoe.
Mae ar drothwy pen-blwydd y tîm yn 10 oed fis nesaf.
Yn bresennol roedd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman; Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd presennol; Winston Roddick, y Comisiynydd cyntaf; a chynrychiolwyr o UAC ac NFU Cymru. Roedd aelodau o'r tîm presennol yno hefyd.
Cyflwynwyd cacen ben-blwydd 10 oed i swyddogion, cyn y treuliwyd y diwrnod yn cyfarfod a sgwrsio ag ymwelwyr ar stondin Heddlu Gogledd Cymru yn yr ŵyl flynyddol fwyaf yng Nghymru.
Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Mae eleni'n nodi 10 mlynedd ers sefydlu'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad yng Ngogledd Cymru. Dwi'n falch iawn o fod wedi bod yma heddiw er mwyn dathlu a chydnabod eu cyfraniadau a llwyddiannau anhygoel i gymunedau cefn gwlad.
"Dros y ddeg mlynedd diwethaf, mae'r tîm wedi datblygu gwybodaeth arbenigol am gymunedau cefn gwlad a natur troseddau sy'n digwydd. Mae hyn yn gwneud yn siŵr fod gan ardaloedd llai trefol y gwasanaeth heddlu gorau posibl.
"Mae wedi dod â'n heddlu a'n cymunedau cefn gwlad yn nes nag erioed o'r blaen. Drwy hyn, mae Gogledd Cymru wedi cael enw da'n genedlaethol am gyflawni gwasanaeth gwych.
"Dwi hefyd yn llawn edmygedd o'r gwaith parhaus diweddaraf gyda'r fenter Dangos y Drws i Drosedd. Dwi wedi gweld y tîm yn gweithio'n agos hefo ffermwyr lleol sy'n cael cynnig y cyngor a'r dulliau atal trosedd diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys pecynnau diogelwch SmartWater, sy'n cael eu defnyddio er mwyn marcio offer ac eiddo'n fforensig er mwyn atal lladradau.
"Mae bod yn amlwg a chysylltiad agos yn allweddol er mwyn gwneud y bobl hynny sy'n byw yng nghefn gwlad yn teimlo'n fwy hyderus a'n bod ni'n gwrando ar eu hanghenion nhw."
Tîm Troseddau Cefn Gwlad Gogledd Cymru oedd y cyntaf o'i fath yn y DU pan gafodd ei sefydlu ar 3 Medi 2013.
Roedd Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar y pryd, wedi addo creu tîm penodol. Dros y ddeg mlynedd diwethaf, mae'r tîm wedi cryfhau ymddiriedaeth a hyder gyda'r gymuned amaethyddol oherwydd gwybodaeth arbenigol gynyddol yn y maes.
Wedi cynyddu o un rhingyll a phedwar cwnstabl i dîm o ddeg, maen nhw wedi ehangu o ymdrin â throseddau amaethyddol a bywyd gwyllt yn bennaf i achosion o droseddau treftadaeth, casglu cocos, dinistrio cynefinoedd, potsio a thipio gwastraff yn anghyfreithlon.
Dros y blynyddoedd, mae'r tîm hefyd wedi arwain y ffordd wrth wneud yn siŵr fod troseddau cefn gwlad yn llai deniadol i droseddwyr.
Dywedodd y Rhingyll Peter Evans: "Pan wnes i ddod i arwain y tîm ddiwedd llynedd, fe wnes i ddarganfod yn sydyn angerdd a balchder o fewn y tîm wrth ymdrin â throseddau cefn gwlad. Roeddwn i'n gallu gweld sut oedd swyddogion eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
"'Da ni wedi cael llwyddiant mawr wrth ymdrin â phroblemau cefn gwlad a bywyd gwyllt. Mae hyn wedi bod yn bosibl drwy ein gwaith partneriaeth gyda'r undebau amaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, a sefydliadau fel yr RSPCA a'r RSPB.
"'Da ni hefyd yn gweithio'n agos hefo Tir Dewi a sefydliad DPJ sy'n ffynonellau mawr o gymorth i'r gymuned amaethyddol gyda llawer o broblemau, gan gynnwys iechyd meddwl.
"'Da ni hefo llawer o waith gwych yn mynd ymlaen er mwyn gwarchod cymunedau cefn gwlad, atal lladradau, nodi troseddwyr a chadw nifer troseddau mor isel â phosibl. Yn ddiweddar, 'da ni wedi derbyn ein fan ymgysylltu troseddau cefn gwlad benodol ein hunain. Bydd yn cael ei defnyddio er mwyn mynd i farchnadoedd da byw, digwyddiadau a chymunedau cefn gwlad. Bydd hyn er mwyn gallu cyfarfod â phobl yn eu cymunedau nhw eu hunain a helpu sicrhau fod plismona'n nes at adref."
Fe ychwanegodd Andy Dunbobbin, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: "Mae'n bleser nodi deg mlynedd Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, y cyntaf o'i fath yn y DU.
"Cafodd yr uned ei ffurfio yn ystod cyfnod Winston Roddick, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf. Fe wnaeth fy rhagflaenydd Arfon Jones gynorthwyo ymhellach.
"'Da ni gyd yn cydnabod y rôl hanfodol mae'r tîm yn ei chwarae wrth drechu trosedd mewn cymunedau cefn gwlad ac amaethyddol.
"Gall y troseddau hyn olygu fod angen uned arbenigol. Mae hefyd yn helpu cydnabod y diwylliant a'r dreftadaeth unigryw sy'n ffurfio trefi, pentrefi a chymunedau Gogledd Cymru.
"Llongyfarchiadau i'r swyddogion a'r tîm ar gyrraedd y garreg filltir o ddeg mlynedd."