Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd naw o bobl ifanc o Ogledd Cymru yn cychwyn ar daith oes y penwythnos hwn mewn ras gychod yn erbyn pobl ifanc o ardaloedd heddluoedd eraill y Gogledd Orllewin.
Bydd Her y Prif Gwnstabl yn cychwyn o Portsmouth ar ddydd Sadwrn 22 Hydref, a bydd eu mordaith yn gorffen yn y Royal Albert Dock yn Lerpwl ar ddydd Gwener, 28 Hydref.
Yn gynharach yr haf hwn, heriodd Serena Kennedy, Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, bedwar heddlu y Gogledd Orllewin i fentro ar y môr mewn ras gychod.
Bydd yr her, a ohiriwyd o'r blaen oherwydd pandemig y Covid, yn gweld pedair o gychod Challenger 72 troedfedd gyda grwpiau o bobl ifanc arnynt o Ogledd Cymru, Glannau Mersi, Swydd Gaer a Heddlu Manceinion Fwyaf yn cymryd rhan.
Dywedodd Serena Kennedy, Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi: "Mae Her y Prif Gwnstabl, sydd yn ei thrydedd flwyddyn, ynghylch creu profiad bythgofiadwy i rai o'n pobl ifanc mwyaf haeddiannol. Bydd yn rhoi'r hyder a'r sgiliau iddynt lywio eu ffordd drwy fywyd.
“Pob lwc i'r swyddogion a'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan. Rwyf yn siŵr y byddant yn manteisio ar y cyfle gwych hwn ac yn llwyr ymroi i groesi'r llinell yn gyntaf."
Dywedodd Chris Allsop, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Mae Profiad Ymddiriedolaeth Ieuenctid y Llongau Tal yn gyfle anhygoel i bobl ifanc wireddu eu potensial wrth wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd ac ychwanegu at eu sgiliau gwaith tîm a chymdeithasol – waeth beth ydy eu bywydau gartref neu brofiadau bywyd.
"Ond yn bwysicaf oll, rwyf yn go
beithio y bydd pawb sy'n cymryd rhan – sydd wedi goresgyn adfyd ac wedi parhau i lwyddo a chyrraedd at yr uchelfannau – yn cael hwyl ac yn manteisio ar y profiad hwn sydd am newid eu bywydau.
"Pob lwc i dîm Gogledd Cymru wrth groesi'r llinell derfyn gyntaf."
Enwebwyd y bobl ifanc, 15-17 oed, gan eu hysgolion a'u dewis gan banel annibynnol.
Bydd y daith, mewn partneriaeth gyda'r Ymddiriedolaeth Ieuenctid Llongau Tal, yn gweld y bobl ifanc yn cymryd rhan ym mhob agwedd o hwylio, o goginio a glanhau i osod yr hwyliau a llywio cwch rasio sydd wedi bod ar y cefnfor.
Dywedodd Andrew Floyd, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Ieuenctid y Llongau Tal: "Rydym yn falch o uno gyda'r pedwar heddlu ar gyfer y teithiau hyn, a fydd yn gyfle unigryw a heriol i'r criwiau ifanc.
"Rydym yn edrych at ymestyn y rhwyd, yn benodol mewn ardaloedd lle mae canran uchel o bobl ifanc yn profi rhyw fath o anfantais.
"Mae'r her yn gyfle gwych i ni ledaenu'r gair am ein gwaith hanfodol a chynorthwyo pobl ifanc ledled y Gogledd Orllewin."
Gan weithio gyda'r Adran Eigioneg ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, byddant hefyd ynghlwm â phrosiect ymchwil am lygredd môr.
Byddant yn byw ar y cwch, yn gweithio sifftiau er mwyn cwblhau dyletswyddau drwy'r dydd a'r nos.
Gobeithir y bydd y profiad yn datblygu sgiliau bywyd tymor hir y bobl ifanc gan gynnwys gweithio mewn tîm, creu hyder a sgiliau datrys problemau.
Gwnaeth taith gwch Gogledd Cymru dderbyn cyllid sylweddol gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a chefnogaeth Uchel Siryfion Clwyd a Gwynedd.
Dywedodd Ashley Rogers, cadeirydd ymddiriedolwyr PACT: "Rwyf yn falch fod PACT wedi gallu cynorthwyo Her y Prif Gwnstabl sy'n rhoi cyfle gwych i'r bobl ifanc hyn rwyf yn siŵr y bydd o fudd iddynt am flynyddoedd i ddod."