Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi annog y cyhoedd i barhau i wylio am arwyddion o gam-drin a pharhau i hysbysu am ddigwyddiadau o'r fath.
Heddiw (dydd Gwener, 18 Tachwedd) ydy diwrnod olaf Wythnos Genedlaethol Diogelu, ymgyrch codi ymwybyddiaeth sy'n amlygu llawer o fathau o gam-drin.
Eleni, gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru ganolbwyntio ei gyfryngau cymdeithasol allanol ac ymgyrch newyddion ar y risgiau i oedolion bregus gan y bobl hynny sy'n bwriadu eu niweidio neu eu cam-drin nhw.
Ymysg y problemau a amlygwyd oedd cam-drin corfforol/emosiynol/rhywiol/ariannol, ynghyd ag esgeulustod a 'cogio' (cuckooing).
Trafodwyd gwahaniaethu a cham-drin sefydliadol – cam-drin neu esgeuluso oedolyn mewn risg gan gyfundrefn neu grŵp o unigolion – hefyd.
Mae'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman yn gobeithio fod yr ymgyrch wedi hysbysu darllenwyr a bydd ei negeseuon yn eu cymell i gydnabod peryglon cam-drin posibl a hysbysu am unrhyw bryderon yn gyflym.
Dywedodd: "Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae ymgyrchoedd fel Wythnos Genedlaethol Diogelu yn amlygu hynny.
"Ni ddylid anwybyddu arwyddion posibl cam-drin. Os oes gan unrhyw un bryderon fod unigolyn mewn perygl, dylid hysbysu am hyn bob amser.
"Rydym wedi ymroi i weithio gydag asiantaethau partner er mwyn ymchwilio digwyddiadau fel hyn yn llawn a rhoi cymaint o gymorth a phosibl i ddioddefwyr a'r bobl hynny a ystyrir i fod mewn perygl.
"Ochr yn ochr â'n hymgyrch gyhoeddus, drwy gydol yr wythnos hon mae ein swyddogion a'n staff wedi cael y canllawiau a'r cyngor diweddaraf wrth ddiogelu'r aelodau mwyaf bregus o'n cymunedau.
"Mae ymdriniaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn parhau'n ganolog i'n nod o warchod pobl fregus.
"Mae swyddogion yn cydnabod fod mynd ati i ymgysylltu gyda dioddefwyr a thystion mewn achosion o gam-drin yn hollbwysig. Maent yn cydnabod pwysigrwydd gwrando a dangos parch drwy gydol y broses ymchwilio.
"Mae ein neges i'r cyhoedd yn glir – gwyliwch am unrhyw arwyddion o gam-drin. Os ydy'r un a amheuir o fod yn cael ei gam-drin yn hen, yn anabl, gyda nam, neu â phroblem iechyd meddwl, efallai gwnânt ei gweld hi'n anodd atal yr hyn sy'n digwydd.
"Mewn argyfwng, cysylltwch â'r heddlu bob amser drwy ffonio 999. Os nad yw'n argyfwng ond buasech yn hoffi siarad gyda'r heddlu, ffoniwch 101 neu un o'r llinellau cymorth a argymhellir isod.
"Drwy hysbysu, gallwch gyfeirio'r pryderon hyn at Heddlu Gogledd Cymru a'n hasiantaethau partner ac achub rhywun rhag niwed o bosib."
Ceir manylion ar wasanaethau cymorth cam-drin i ddioddefwyr yma.